Mae dull traddodiadol marchnerth wedi helpu i ddefnyddio pren eto ar ôl gwaith clefyd coed ynn.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi cael cefnogaeth gan gyfaill pedair coes ym Mharc Gwledig Loggerheads i glirio pren i’w ailddefnyddio ar ôl gwaith diweddar ar y safle i atal clefyd coed ynn.
Mae’r goeden onnen sy’n frodorol i’r DU yn arbennig o gyffredin ar draws tirwedd Sir Ddinbych ac yn anffodus, mae llawer o’r coed hyn, gan gynnwys rhai yn Loggerheads, wedi’u heffeithio gan ffwng o’r enw Hymenoscyphus fraxineus, sy’n achosi clefyd coed ynn.
Cafodd coed y credwyd eu bod yn risg oherwydd y clefyd eu torri i lawr yn y parc ond caiff y pren sydd dros ben ei ailddefnyddio i gefnogi’r parc ymhellach, diolch i ymdrechion Bill, Cob Sipsi 15 oed.
Daeth Kevin Taylor o Shire X Logging â Bill i’r parc i helpu staff Cefn Gwlad i dynnu coed na allent eu cyrraedd gyda cherbydau ac a oedd yn rhy drwm i’w symud â llaw. Mae wedi bod yn gweithio gyda Bill ers 11 mlynedd ac mae’r ddau yn agos iawn.
Mae defnyddio Bill yn enghraifft o reoli coedwigoedd lle mae ceffylau’n symud coed o le maent wedi cwympo i le i’w casglu. Mae’r dechneg yn fwy carbon gyfeillgar gyda’r ceffyl yn disodli cerbydau, ac yn well i ecoleg y goedwig.
Bydd y pren y bydd Bill yn ei gasglu yn cael ei falu’n ddarnau y mae modd eu defnyddio er mwyn creu meinciau ar gyfer y parc.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych bod dull traddodiadol wedi ein galluogi i adfer y pren hwn i’w ailddefnyddio yn y parc o le y daeth ar ôl y gwaith pwysig hwn ar glefyd coed ynn yn y parc a diolch i bawb am eu cefnogaeth tra’r oedd Bill yn gwneud ei waith.”