Mae disgyblion Prestatyn yn creu noddfa i natur oroesi ar dir eu hysgol.
Mae disgyblion Ysgol Penmorfa yn gofalu am fioamrywiaeth o amgylch eu hysgol i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
Mae’r ysgol wedi creu nifer o ardaloedd awyr agored i fywyd gwyllt ffynnu, gan gynnwys eu gardd sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth, ardaloedd blodau gwyllt a choridorau coed. Dros y gaeaf, plannodd yr ysgol 400 o goed gan Goed Cadw ar eu tir a 15 o goed ffrwythau brodorol gyda help tîm gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, gan greu coridor bywyd gwyllt o goed ifanc a glaswellt hir o amgylch tu allan i gae eu hysgol.
Trwy gyngor a chefnogaeth gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor, mae disgyblion yn symud ymlaen wrth gynnig cefnogaeth gynyddol i’r natur sydd ar y safle trwy ddefnyddio’r hyn y mae tir yr ysgol yn ei ddarparu. Yn ddiweddar, aeth staff i ymweld ag Ysgol Penmorfa i redeg sesiwn fioamrywiaeth i ddisgyblion o’r grŵp garddio sgiliau bywyd. Bu’r tîm yn helpu’r disgyblion i gasglu hadau o dir eu hysgol i helpu i ailgyflenwi a rhoi hwb i’w hardaloedd blodau gwyllt presennol a gobeithio creu mwy yn y dyfodol gan ddefnyddio’r ffynhonnell hadau gynaliadwy hon. Bu’r staff yn arwain helfa chwilod o amgylch tir yr ysgol hefyd i ddangos i ddisgyblion beth yw gwerth yr ardaloedd gwyllt hyn i infertebratau a bywyd gwyllt arall.
Meddai Ellie Wainwright, swyddog bioamrywiaeth: “Roedd yn hyfryd gweld pa mor frwdfrydig oedd y plant am y gwahanol infertebratau sy’n byw ar dir eu hysgol. Mae mor bwysig iddynt ddysgu am fyd natur a rhyngweithio ag ef, er lles eu hiechyd nhw ac iechyd y blaned yn y dyfodol. Mae’r ardaloedd gwyllt mae Ysgol Penmorfa wedi’u creu yn llawn dop ac mae pob cam fel hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol, gan sicrhau dyfodol i’r plant hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Cymru yw un o’r gwledydd mwyaf diffygiol o ran natur yn y byd, ac mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o gael eu colli, ac mae mwy na 97% o’n dolydd blodau gwyllt wedi’u colli dros y 100 mlynedd diwethaf.
“Felly mae’r hyn mae’r disgyblion hyn yn ei wneud yma yn wych, mae eu gofal a’u hangerdd dros ddysgu sut i ddiogelu’r cynefinoedd hyn ar dir eu hysgol eu hunain yn rhywbeth y gallwn i gyd ddysgu ohono.”