Mae caffi yn Rhuthun yn sicrhau nad yw bwyd da’n cael ei wastraffu, er mwyn cefnogi’r gymuned leol.

Mae caffi Eiliadau ar Stryd y Ffynnon wedi cymryd camau arloesol i fynd i’r afael â gwastraff bwyd diangen, er mwyn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Mae’r caffi, sy’n cael ei redeg gan ReSource, wedi bod ar agor ers bron i bedwar mis yn Nhŷ’r Goron, sy’n eiddo i'r Cyngor.

Yn ddiweddar, cymerodd staff y Cyngor ran yn y rhaglen Design Differently gan y Cyngor Dylunio, gan ganolbwyntio ar yr economi gylchol o ran ailddefnyddio ac atgyweirio yn Sir Ddinbych gyda sefydliadau eraill, gan gynnwys Ailddefnyddio Cymru, a fu’n helpu gyda sefydlu’r syniad am gaffi.

Roedd y rhaglen Design Differently yn annog cydweithio, gan roi’r cyfle i Gyngor Sir Ddinbych gefnogi ReSource â rhai o’u syniadau ac i’r gwrthwyneb. Yna, defnyddiodd tri o staff ReSource y syniadau i greu canolbwynt cymunedol sy’n gwneud defnydd synhwyrol o fwyd dros ben.

Mae Jade Lee yn un o aelodau’r tîm: “Prif orchwyl y caffi yw derbyn bwyd dros ben bob amser, felly gall ein bwydlen newid o ddydd i ddydd ar gyfer ymwelwyr. Rydym yn darparu bwyd lleol lle bo modd hefyd a phan fyddwn yn prynu i mewn, byddwn yn ceisio sicrhau ei fod mor lleol â phosibl.

“Nid ydym yn gadael i unrhyw beth gael ei wastraffu, felly lle bo modd, byddwn yn ei ailddefnyddio ac mae hyn yn cadw’r costau’n isel i ni a’r rhai sy’n ymweld â’r caffi. Rydym yn cadw ein costau mor isel â phosibl, er mwyn ei gynnal fel caffi cymunedol.

Mae ein Tîm yn delio â’r Co-op, y neuadd farchnad yma yn Rhuthun. Rydym yn defnyddio Caws Figan Pips ac rydym wedi derbyn rhoddion gan Patchwork Foods, sydd wedi bod yn wych.”

Mae caffi Eiliadau ar agor ar hyn o bryd rhwng dyddiau Mercher a Sadwrn ac mae’n defnyddio cynllun addas i gefnogi Costau Byw, ar gyfer rhai sydd o bosib yn ei chael hi’n anodd prynu yn ein lleoliad.

Eglurodd Jade: “Rydym hefyd yn derbyn rhagdaliadau, ac mae llawer o bobl yn credu ei fod yn gynllun ardderchog. Rydym yn rhoi unrhyw arian o dipiau mewn pot bach; yna caiff ei ddefnyddio pan na fydd rhywun sy’n dod i mewn yn gallu fforddio neu dalu’n llawn.

Mae’r caffi’n mynd i’r afael â mwy na bwyd dros ben yn unig, mae llyfrau a gemau ar y fwydlen hefyd.

Ychwanegodd Jade: “Rydym ni’n cynnal digwyddiadau bach, fel diwrnodau ar gyfer gêm benodol neu mae gennym glwb llyfrau hefyd er mwyn denu pobl i mewn. Bu i ni gynnal un digwyddiad lle gallai pobl ddod draw i ddysgu am steiliau gwallt y 1960au. Mae rhai’n rhentu’r caffi ar gyfer digwyddiadau, fel y gallant ei ddefnyddio ar gyfer gweithdy penodol a digwyddiadau ar gyfer y gymuned.

“Rydym hyd yn oed wedi cynnal ein parti plant cyntaf. Mae’r teulu eisoes yn galw i mewn yn aml gyda’u plant ifanc."

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae creu dull partneriaeth yn ffordd wych o fynd i’r afael â’r heriau niferus sy’n ein hwynebu wrth addasu i newid yn yr hinsawdd. Roeddem yn ddiolchgar o gael y cyfle hwn gan y Cyngor Dylunio, sydd wedi ein helpu wrth symud ymlaen fel Cyngor, i weithio’n agosach â’n cymunedau, megis Caffi Eiliadau, er mwyn mynd i’r afael â gwastraff bwyd ar yr amgylchedd yn well er enghraifft gyda’n gilydd.”