Mae cymuned fywiog o wirfoddolwyr wedi ffurfio o wreiddiau prosiect bioamrywiaeth.

Mae planhigfa coed o darddiad lleol y Cyngor, yn Fferm Green Gates, Llanelwy, yn ceisio cynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwyllt brodorol y flwyddyn, ochr yn ochr â 5,000 o goed brodorol.

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect ENRaW Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol i Natur, hefyd yn meithrin grŵp cynyddol o wirfoddolwyr sydd wedi dod yn awyddus i wylio eu gwaith yn tyfu i fod yn gymorth hanfodol i fioamrywiaeth sirol.

Bydd coed a phlanhigion a dyfir yn y blanhigfa yn y pen draw yn mynd yn ôl i gefn gwlad i hybu bioamrywiaeth. Eisoes yr hydref diwethaf ychwanegwyd bron i 8,000 o blanhigion at nifer o Ddolydd Blodau Gwyllt Sir Ddinbych.

Daeth Angela Mackirdy, sy’n byw yn y Rhyl ac yn wreiddiol o Swydd Amwythig, i helpu a chefnogi uchelgais y blanhigfa goed y llynedd ar ôl cysylltu â thîm bioamrywiaeth y Cyngor ynghylch cyfleoedd amgylcheddol.

Fe esboniodd: “Pan oeddwn yn Swydd Amwythig roeddwn i'n arfer gwneud llawer o bethau amgylcheddol. Roedd gennym ni dyddyn, roeddem yn amgylcheddwyr lefel uchel. Fe wnes i arolygon adar, arolygon natur, arolygon planhigion, roedden ni’n rhan go iawn o'r grŵp bywyd gwyllt lleol.

“Dechreuais ddod y llynedd pan oeddem at ein pen-gliniau mewn mwd. Dwi jyst yn mwynhau, dwi'n mwynhau dod allan a chyfarfod pobl a gweld sut mae pethau wedi datblygu. Mae'n anhygoel yn tydi.

“Pan wnaethon ni blannu’r mes ac yna gweld y derw yn dechrau tyfu, rydych chi’n meddwl ymhen 50 mlynedd bydd y goeden honno’n mynd i fod yn tyfu yn rhywle.”

Mae Simon Roberts, sy'n rhedeg rhandir ym Mhrestatyn, yn nodi’r cyfle i ddysgu fel agwedd wych o wirfoddoli yn y blanhigfa.

“Rydych chi'n cwrdd â gwahanol bobl na fyddech chi'n cwrdd â nhw fel arfer ac mae'n lle braf. Rydych chi'n dysgu llawer mwy am y blodau gwyllt. Mae gennym ni foncen lawr yn y rhandir, rydym wedi plannu pethau ac yn ceisio ei chael cystal ag y gwelwch y tu allan yma.

“Mae Neil (Swyddog y Blanhigfa Goed) yn wybodus iawn am bethau, sydd yn fy helpu i, pethau na allaf eu tyfu gartref mae’n sôn amdanynt.”

Mae’r cwpl priod, Roger a Sue Jones, o Lanelwy, yn falch, nid yn unig o gefnogi bioamrywiaeth leol, ond hefyd o allu teithio’n gynaliadwy i wneud hynny.

Dywedodd Roger: “Rydyn ni'n eitha gwyrdd ... gwelodd Sue hwn yr wythnos diwethaf a dywedais y dylen ni fynd i lawr a dyma ni.”

Ychwanegodd Sue: “Mae’n hawdd i ni yn Llanelwy, gallwn gerdded neu feicio.”

Mae Clare Frederickson, yn teithio draw o Glyn Ceiriog yn ei cherbyd trydan, i chwarae ei rhan i helpu i hybu’r planhigion a’r coed ar gyfer bioamrywiaeth leol.

Fe esboniodd: “Roeddwn i wir eisiau dod, mae'n gyfle da, mae'n anhygoel beth sydd wedi'i wneud. Mae dydd Mawrth yn ddiwrnod da iawn i mi, a meddyliais y gallwn ddod draw i weld a allaf wneud unrhyw beth defnyddiol.

“Mae’n anhygoel bod yma… mae’n hyfryd iawn, mae’n brydferth.”

Eglurodd Gareth Hooson, o Ddinbych, fod ei gymhelliant dros helpu'r blanhigfa yn rhan o'r darlun ehangach o newid hinsawdd.

Dywedodd: “Fedra i ddim meddwl am unrhyw beth pwysicach na’r angen am goed ar hyn o bryd, dyna’r prif gymhelliant os mynnwch.

"Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn garddwriaeth, pan ddechreuais pan oeddwn yn fyfyriwr, yn gweithio swyddi haf mewn garddwriaeth ... nid yw byth wedi fy ngadael."

Dechreuodd Gareth wirfoddoli pan apeliodd y tîm Bioamrywiaeth am gymorth i gasglu mes yn hydref 2022 i dyfu yn y blanhigfa.

“Dim ond gweld hynny drwodd mewn gwirionedd. Fe wnaethon ni eu casglu, eu plannu, eu potio a dyma nhw. Unwaith y byddwch chi'n cymryd rhan, rydych chi’n gwirioni gan eich bod chi'n sylweddoli gwerth yr hyn rydych chi'n ei wneud.

“Y cam nesaf fydd cael y rhain allan i’r amgylchedd, i’w cael nhw i gychwyn tyfu.

“Mae’n beth gwerthfawr i’w wneud, dwi ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn sylweddoli’r sefyllfa rydyn ni ynddi mewn gwirionedd ac mae angen i ni gyd-dynnu a rhoi trefn ar bethau os ydyn ni’n gallu.

“Mae’n gyfleuster eithaf unigryw hwn dwi’n meddwl ac mae bod yn rhan ohono yn bendant yn beth gwerth chweil. Mae’n brosiect gwych a gobeithio y byddaf yma i’w weld mewn 10 mlynedd!”

Mae Neil Rowlands, Swyddog y Blanhigfa Goed, yn gofalu am yr holl wirfoddolwyr: “Maen nhw wedi bod yn wych, maen nhw’n grŵp mor wych ac felly wedi buddsoddi yn yr hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni yma yn y blanhigfa.

“Mae’n wych eu cael nhw yma gan ei fod wedi dod yn gymuned fywiog go iawn ac mae gan bawb ddiddordeb mewn dysgu sut rydyn ni’n tyfu’r planhigion a’r coed. Heb y gwirfoddolwyr ni fyddem wedi gallu cyrraedd y cam yr ydym arno ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am eu holl gefnogaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi dod i’r blanhigfa goed i helpu. Mae eu hymdrechion yn ein helpu ni i wneud gwahaniaeth mawr i fioamrywiaeth leol a hefyd rwy’n falch eu bod yn mwynhau eu hamser ar y safle yn fawr.”

Os hoffech chi wirfoddoli i helpu yn y blanhigfa goed, anfonwch e-bost at: bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk