Mae prosiect peilot wedi helpu i roi blas o gludiant mwy gwyrdd i 68 o yrwyr tacsis.

Mae Prosiect Tacsi Gwyrdd peilot y Cyngor wedi cwblhau ei filltiredd allyriadau isel terfynol, gan gefnogi cwmnïau tacsis ledled y sir sy’n ceisio gostwng eu hôl-troed carbon eu hunain.

Roedd y Cyngor yn un o’r ychydig o awdurdodau lleol dethol yng Nghymru a gymerodd ran yn y cynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod tymor yr hydref 2021, dechreuodd y prosiect wrth ddefnyddio pedwar tacsi Nissan Dynamo E-NV200 oedd yn hygyrch i gadeiriau olwyn i’w defnyddio fel rhan o’r ‘cynllun rhoi cynnig arno cyn prynu’.

Roedd gyrwyr tacsis Hacni trwyddedig yn gallu profi’r cerbyd yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod, a oedd yn cynnwys pwyntiau gwefru trydan am ddim mewn lleoliadau penodol yn y sir, trwydded cerbyd, yswiriant a pholisi torri i lawr.

Ar ôl cael adborth gan y gyrwyr tacsis ynglŷn â gwaith pellter hir, ychwanegwyd Kia EV6 i’r dewisiadau.

Gall y cerbyd deithio hyd at 328 o filltiroedd ar un gwefriad ac mae wedi’i ddylunio i ganiatáu i yrwyr tacsi weithio shifft gyfan yn hyderus gan gynnwys teithiau i feysydd awyr heb fod angen gwefru.

Roedd cyfanswm terfynol y milltiroedd ar gyfer y prosiect yn dangos fod y tacsis yn fras wedi teithio pellter o dair gwaith a hanner o amgylch y byd, sef 88,086 milltir.

Nifer y teithiau a gymerwyd i gefnogi sut y gall cludiant tacsi mwy gwyrdd helpu i ostwng allyriadau oedd 12,760 o siwrneiau unigol, ar draws y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r prosiect hwn wir wedi helpu gyrwyr tacsis ar draws y sir i gael profiad da o yrru cerbyd trydan. Mae wedi eu helpu i gyd i ganolbwyntio ar eu hôl-troed carbon eu hunain a beth allant ei wneud i ostwng eu heffaith. Mae adborth gan yrwyr wedi bod yn dda iawn.

“Mae’r prosiect wedi ein galluogi i gael adborth ar y defnydd o gerbydau allyriadau di-garbon yn ystod gweithrediadau tacsi heb gyfaddawdu ar ddarparu gwasanaeth a hefyd dangos yr arbedion tanwydd a’r effaith yn erbyn newid hinsawdd y gall cerbydau trydan ei ddarparu.”

“Mae’r peilot hefyd wedi helpu ein hadran fflyd yn ogystal ag edrych ar sut y gall gwahanol gerbydau trydan fod yn addas ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig sydd gan Sir Ddinbych.”