llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Cerbydau Trydan

Ym mis Hydref 2021, cafodd tîm AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyfle i roi cynnig ar gerbyd trydan sy’n addas ar gyfer pob math o dir, er mwyn canfod a fyddai'r cerbyd yn addas ar gyfer rhai o'r tasgau y mae tîm y ceidwaid angen eu gwneud o amgylch yr AHNE. Ar hyn o bryd, ar gyfer unrhyw dasg sy'n golygu mynd i rannau anghysbell o'r AHNE, symud cyfarpar neu gasglu sbwriel, mae angen tryc 4x4 diesel i helpu’r ceidwaid i wneud y gwaith. Ond gyda’n dyhead ni i leihau allyriadau carbon a bod yn ddi-garbon net, rydym yn awyddus i archwilio dewisiadau amgen ymarferol.

Mae cerbydau pob pwrpas (UTVs), a elwir hefyd yn gerbydau ‘ochr yn ochr’, yn gerbydau bychain sy’n addas ar gyfer pob math o dir ac sy’n gallu cario dau berson a llwyth bychan o offer, cyfarpar neu adnoddau. Fel arfer, mae gan y cerbydau hyn injan diesel neu betrol, ond yn yr un modd â cherbydau ffordd, mae’r duedd tuag at gerbydau trydan ac allyriadau isel iawn yn cynyddu’n gyflym.

Ymysg manteision UTV trydan dros gerbyd petrol neu ddiesel, mae’n gwneud llai o sŵn, yn achosi llai o lygredd aer wrth ei ddefnyddio, yn amharu llai ar fywyd gwyllt a defnyddwyr yr awyr agored, ac mae posib pweru’r cerbyd gyda 100% o ynni adnewyddadwy, gan leihau cryn dipyn ar yr allyriadau CO2 sy’n gysylltiedig â defnyddio cerbydau. Rhai o anfanteision cerbyd trydan yw’r amser y mae’n ei gymryd i’w hailwefru a’r ffaith na ellir ymestyn taith y cerbydau drwy gludo can llawn petrol i ail-lenwi’r tanc, yn ogystal â’r problemau gyda gweithgynhyrchu ac ailgylchu batris.

Er mwyn gallu asesu’n well a fyddai UTV trydan yn ychwanegiad addas i fflyd y ceidwaid, bu i ni ofyn i Clwyd Agri ddod â cherbyd draw i Barc Gwledig Loggerheads i ni gael gweld sut y byddai’n gweithio yn y byd go iawn. Fe aethom ni â'r cerbyd arddangos ar ddwy daith waith nodweddiadol y mae'n rhaid i'n ceidwaid ni ddefnyddio cerbyd 4x4 diesel i'w gwneud ar hyn o bryd. Un o'r rhain oedd taith casglu sbwriel i Dŵr y Jiwbilî ar Moel Famau, a’r llall oedd taith i weld yr anifeiliaid sy’n pori er lles cadwraeth i wirio eu lles a’u clostir drwy’r coetir ar ochrau dwyreiniol Moel Famau.

Polaris Ranger Ev oedd y cerbyd a gawsom ni gan Clwyd Agri i roi cynnig arno, a hwnnw ar fenthyg gan ei berchnogion, sef Brighter Green Engineering. Mae gan y cerbyd fatris asid plwm safonol, er bod posib uwchraddio i gael batri lithiwm-ïon er mwyn lleihau'r pwysau, ymestyn y pellter teithio a gwella’r perfformiad ailwefru.

Gwnaeth gallu ac ystod y cerbyd argraff dda iawn ar ein ceidwaid, gan iddo gwblhau taith i gopa Moel Famau ac yn ôl i’r maes parcio yn hawdd gan ddefnyddio dim ond 10% o’r batri. Hefyd, dangosodd y dull gyrru pedair olwyn dewisol bod y cerbyd yn fwy na chymwys i gwblhau'r daith arw a serth i’r copa gan gario dau o bobl a llwyth o offer.

Rydyn ni bellach wrthi’n canfod cerbydau addas i’w caffael, yn y gobaith y bydd ychwanegu UTV trydan at fflyd cerbydau ein ceidwaid yn golygu y byddwn ni’n dibynnu llai ar ein cerbydau diesel i wneud teithiau byr (dyma pryd maen nhw’n perfformio ar eu gwaethaf o ran allyriadau gronynnol), ac yn y pen draw, yn lleihau ein dibyniaeth ar gerbydau tanwydd ffosil sy’n drwm ar CO2.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...