llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Llwyddiant Straeon y Sêr

Cynhaliwyd prynhawn a noswaith fendigedig o adrodd straeon ym Mryniau Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel rhan o’n rhaglen Awyr Dywyll.

Bu’r storïwr lleol arobryn Fiona Collins o Garrog a Dani Robertson o Brosiect NOS, Partneriaeth Awyr Dywyll Gogledd Cymru, yn arwain dau sesiwn difyr ac addysgiadol o straeon am y sêr, a daeth mwy na hanner cant o bobl i gymryd rhan yng Nghoed Llangwyfan.

Un o’r hanesion lu a adroddodd Fiona oedd un am y cytser rydyn ni’n ei alw yn yr Efeilliaid.

Roedd y Celtiaid yn gweld cytser yr Efeilliaid (Gemini) nid fel gefeilliaid, ond fel dau frawd, Gwyn a Gwyrthur, yn brwydro am gariad Creuddylad, y ferch brydferthaf - sy’n aml yn cael ei phortreadu yn gwisgo coch. Yn wahanol i’r amser modern lle’r edrychir yn fwy amheus ar ferched sy’n gwisgo coch, roedd coch yn y byd Celtaidd yn cynrychioli  morwyndod a rhinwedd, a dyma’r lliw a wisgai merched ar ddiwrnod eu priodas. Roedd Gwyrthur wedi mopio’n lân am Creuddylad. Fodd bynnag, daeth Gwyn, brawd cenfigennus a chas Gwyrthur, a dwyn Creuddylad oddi arno, a thorrodd Gwyrthur ei galon. Nid oedd Gwyrthur yn fodlon gollwng gafael ar ei gariad, a chyrchodd fyddin i’w dwyn yn ôl. Bu brwydr chwyrn a gwaedlyd. Curodd Gwyn ei frawd ac ailymuno â’i gariad a chymryd y penaethiaid yn gaeth fel dialedd. Dywedir fod y ddau frawd yn dal i ymladd yn y nen am law’r Ferch mewn Coch bob Calan Mai, ac y byddant yn parhau i wneud hynny tan Ddydd y Farn pan fydd yr enillydd yn cael ei chadw iddo’i hun am byth. Cymerwyd eu cystadleuaeth fel cynrychiolaeth o’r gystadleuaeth rhwng haf a'r gaeaf, ac mae thema cariad, colled a brwydr rhwng da a drwg yn dal i fod yn amlwg iawn mewn storïau a hanesion yr amser modern.

Mae cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn un o blith nifer o ffyrdd y mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn amlygu mor bwysig yw Awyr Dywyll y Nos a’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i’w diogelu. Ddechrau 2022 bydd tîm yr AHNE yn cyflwyno cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol am gydnabyddiaeth ffurfiol o rinweddau awyr y nos yma. I ddysgu mwy am Awyr Dywyll Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ewch i https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/projects/dark-skies/?lang=cy

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...