llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Amlennu Allanol a Gwaith i Ddefnyddio Ynni’n Fwy Effeithlon

Rydym yn ymrwymo i ostwng biliau tanwydd ein tenantiaid ac inswleiddio ein cartrefi’n well. I helpu gyda hyn aethom ati yn yr haf i gwblhau ein darn cyntaf o waith ôl-osod er mwyn defnyddio ynni’n fwy effeithlon, yng Ngallt Melyd. Mae’r cynllun hwn wedi gwella’r tu allan i 55 o gartrefi ar Ffordd Tŷ Newydd ac ystadau eraill yn y cyffiniau.

Fel rhan o’r contract, a gyda chymorth drwy grant Ôl-osod Llywodraeth Cymru, rydym hefyd wedi gosod technoleg ddyfeisgar yn y cartrefi hyn er mwyn defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Mae hyn wedi cynnwys paneli solar ffotofoltaig integredig, inswleiddio’r tu allan i waliau a thechnoleg batris. Rydym hefyd wedi rhoi to newydd ar bob tŷ, ail-rendro a gosod cafnau a phibellau glaw newydd.

Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig dros ben, ac mae’r rhaglen yn un o blith nifer fechan o gynlluniau peilot sydd ar waith yng Nghymru. Bu modd inni osod synwyryddion yn y cartrefi hyn er mwyn creu System Ynni Ddeallus. Mae’r synwyryddion yn mesur tymheredd a lleithder yn y cartrefi sy’n eu gwneud yn lleoedd brafiach i fyw ynddynt. Maent hefyd yn ein helpu i gadw golwg ar ein cynnydd wrth leihau ôl troed carbon stoc Tai Sir Ddinbych. Mae’r data y mae’r system yn eu casglu hefyd yn rhoi gwybodaeth inni am faint o ynni a gynhyrchir oddi ar y grid ymhob tŷ, sy’n gostwng eich biliau.

Cyflawnwyd y rhaglen mewn partneriaeth â Sustainable Building Services sydd wedi gweithio â Tai Sir Ddinbych ar nifer o brosiectau buddsoddi mawr. Rydym yn bwriadu dechrau cam nesaf y gwaith yn y misoedd nesaf, gan gynnwys gwella 55 o gartrefi yn y Rhyl. Mae arolygon yn cael eu cynnal ar hyn o bryd a gobeithiwn fedru gwneud gwaith tebyg yn y fan honno er mwyn defnyddio ynni'n fwy effeithlon.

Byddwn yn gosod chwe chant o Systemau Ynni Deallus mewn cartrefi ledled Sir Ddinbych fel rhan o’r gwelliannau’r ydym wedi’u cynllunio ar gyfer y 3-5 mlynedd nesaf drwy’r fframwaith amlennu allanol.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...