llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Cydweithio ar gyfer dyfodol cymuned Pengwern

Yn yr haf cynhaliwyd cyfres o weithgareddau cymunedol er mwyn meithrin cyswllt â phreswylwyr a hybu lles y gymuned. Cynhaliwyd y gweithgareddau mewn partneriaeth â Hwb Cymunedol Pengwern, Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Tai Cymunedol Sir Ddinbych, Chwarae Actif, Cymunedau Bywiog, y Gwasanaeth Ieuenctid, Grŵp Cynefin, CAD a sefydliadau lleol eraill.

Helpodd Hwb Pengwern 80 o oedolion a 205 o blant i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn Llangollen.

Roedd y gweithgareddau a’r gwasanaethau i breswylwyr yn cynnwys:

  • Gweithdai beics
  • Sesiynau chwarae actif a chwaraeon
  • Twrio am fwyd i’r teulu
  • Gwau a sgwrsio
  • Gweithdy macrame
  • Gweithdy Byd Natur a Bywyd Gwyllt
  • Sesiwn sydyn gwisg ysgol
  • Adrodd straeon i’r teulu
  • Sesiynau galw heibio Cyngor ar Bopeth.

Dosbarthwyd 179 o becynnau byrbryd i blant yn ystod gwyliau’r haf diolch i roddion gan gwmnïau lleol.

Ar sail yr hyn a ddywedodd y preswylwyr bu’r gweithgareddau o gymorth iddynt gael mynediad i’r gymuned a theimlo mwy o gysylltiad. Mae’r Cydlynydd ym Mhengwern wrthi’n cynllunio gweithgareddau eraill ar gyfer y misoedd i ddod, gan gynnwys gweithio gydag ysgolion wrth gynnal cystadleuaeth i ddylunio logo Hwb Cymunedol Pengwern yn ogystal â digwyddiadau Calan Gaeaf a’r Nadolig.

Rydym wrthi’n paratoi a chynllunio’r digwyddiadau hyn felly cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.

Preswylydd Pengwern

“Fe aethon ni i dwrio am fwyd a gwneud bara yn y goedwig. Roedd hi’n fendigedig crwydro drwy’r coed a chael gwerthfawrogi beth sydd gennym ar garreg y drws. Roedd hi’n braf iawn hefyd i gwrdd â chymdogion nad oedden ni wedi cwrdd â nhw o’r blaen. Roedd y staff yn wybodus ac yn amyneddgar dros ben gyda phobl o bob oedran a gallu yn y sesiwn, ac yn goron ar y cyfan fe gawson ni fwyta’r bara a wnaethon ni wrth y tân.

Fe gymeron ni ran mewn digwyddiad chwaraeon amrywiol ym mharc Pengwern, roedd y mab wrth ei fodd â’r amrywiaeth o gampau a’r gwahanol blant na fyddai wedi cwrdd â nhw fel arall, gan ei fod yn mynd i ysgol arall. Roedd y staff yn fendigedig ac wedi cofio’i enw ers un o’r gweithgareddau cynt. Fe gawson ni becyn byrbryd wrth adael ac roedd hynny’n beth da iawn.”

Bob dydd Llun rhwng 10am a hanner dydd bydd y ganolfan ar agor i bobl ddod i siarad â Cyngor ar Bopeth ar ffurf sesiwn galw heibio ar-lein. I gael mwy o wybodaeth neu drefnu apwyntiad cysylltwch ag office@sdcp.org neu ffonio 01490 266004 i gael sgwrs ag aelod o’r tîm cyfeillgar.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...