Mae gwaith i ddiogelu cytref o adar yn Sir Ddinbych yn haeddiannol o arwyddocâd rhyngwladol, yn ôl Adroddiad Blynyddol pwysig ar natur yn y DU.

Mae prosiect Môr-wenoliaid bach Gronant gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wedi cael ei restru fel enghraifft gadarnhaol ar gyfer diogelu bywyd gwyllt yn yr Adroddiad ar Gyflwr Natur diweddaraf.

Mae’r Adroddiad ar Gyflwr Natur 2023 wedi’i rannu i wledydd unigol y DU, ac mae’n cael ei lunio drwy gydweithio gyda dros 60 partner grŵp sy’n ymwneud â bioamrywiaeth a natur.

Mae’r rhywogaeth a astudiwyd yn y cydweithrediad wedi gostwng o 19 y cant ar gyfartaledd ers cychwyn monitro yn 1970. Mae’r dirywiad llawer mwy ar gyfer rhai grwpiau, gan gynnwys adar a nodwyd i fod yn golled o 43 y cant.

Serch hynny, mae’r Adroddiad ar Gyflwr Natur yn amlygu Prosiect y Môr-wenoliaid Bach fel darn cadarnhaol o waith cadwraeth o ‘arwyddocâd rhyngwladol’.

Mae timau Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr lleol wedi rhoi bron i ugain mlynedd o’u hamser yn amddiffyn ac yn rheoli nythfa’r môr-wenoliaid bach yn Nhwyni Tywod Gronant.

Dyma’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru; mae’n cyfrannu at dros 10 y cant o’r boblogaeth fagu yn y DU yn ogystal ag ategu heidiau eraill.

Mae môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica ac yn cyrraedd y twyni tywod ym mis Mai i fridio ar y traeth cerrig mân ar safle gwarchodedig sydd wedi’i baratoi ym mis Ebrill gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a gwirfoddolwr. Maen nhw’n dechrau hedfan yn ôl tua’r de ddiwedd mis Awst. Cofnodwyd 155 o adar ifanc ar y safle yn 2022, a monitrwyd 211 o barau bridio.

Mae’r adroddiad yn cydnabod gwaith y staff a’r gwirfoddolwyr sy’n diogelu’r safle drwy amlygu bod twf y nythfa yn debygol o gael ei yrru gan lefelau uchel o lwyddiant wrth fridio yn hytrach na recriwtio adar sy’n oedolion o nythfeydd eraill yn y DU.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Mae staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn gweithio’n ddiflino drwy gydol y tymor i warchod a chefnogi’r nythfa bwysig hon yn Sir Ddinbych. Mae’n wych gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod fel cam cadarnhaol ymlaen wrth wrthdroi dirywiad poblogaethau ein hadar ar draws y DU."