llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2023

Cyhoeddi enillwyr y gystadleuaeth enwi cerbydau ailgylchu!

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhyddhau enwau buddugol eu cerbydau ailgylchu newydd sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac y bydd ar ein ffyrdd yn 2024.

Cyflwynwyd dros 100 o geisiadau gan ddisgyblion ysgolion Sir Ddinbych fis Medi. Criwiau gwastraff y Cyngor – fydd yn gyrru’r cerbydau newydd - oedd yn gyfrifol am y gwaith beirniadu cychwynnol, gyda’r penderfyniad terfynol wedi ei gymryd gan Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.

Bydd yr enwau buddugol yn cael eu hargraffu ar y lorïau newydd. Cyn bo hir, bydd trigolion Sir Ddinbych yn gweld Tyrbo, Terbinator, Lord of the Bins a Trash Gordon, ymhlith eraill, yn casglu eu hailgylchu.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr  Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a da iawn i’r holl ysgolion a gymerodd ran. Mae wedi bod yn wych gweld ceisiadau mor frwdfrydig a chreadigol gan blant ysgol y Sir.

“Bydd y cerbydau newydd hyn yn cymryd lle'r fflyd presennol sydd bellach yn hen. Mae’r cerbydau newydd, tri ohonynt yn gerbydau trydan, wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r ymrwymiad i wella lefelau ailgylchu yng Nghymru. Bydd y cerbydau’n fwy cost-effeithiol ac yn fwy ecogyfeillgar, gan arwain at arbedion cost yn y tymor hir.”

Mae rhestr yr ysgolion buddugol ar gael ar wefan y Cyngor, ac mae enwau buddugol y lorïau isod:

  • Terbinator
  • Stig of the Dump Truck
  • Recyclops
  • Lord of the Bins
  • Trashformer
  • Trash Gordon
  • Recyclosaurus Rex
  • Binny McBinface
  • Bindarela
  • Tyrbo
  • Binnie
  • Ailgylchugeitor
  • Draig Daear Dragon
  • ArBINnig
  • Rubbish Sucker Bob
  • Benny the Bin Lorry
  • Dusty McBinlid
  • Binbych
  • Mr Eco
  • Dilys
  • Stitch
Lori ailgylchu glas a gwyrdd

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...