llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2023

Arweinydd y Cyngor yn talu teyrnged i ysbryd cymunedol yn ystod Storm Babet

Mae Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi canmol gwydnwch ac ymdrechion y gymuned yn dilyn y glaw trwm a darodd y Sir yn ystod Storm Babet ar 20 Hydref.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, “Fe wnaeth llawer o drigolion Sir Ddinbych wynebu cyfnod anodd iawn dros y penwythnos hwnnw, gyda rhai pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi, ac eraill wedi gorfod amddiffyn eu cartrefi yn dilyn glaw digynsail mewn cyfnod byr o amser.

"Effeithiodd Storm Babet ar drigolion, ysgolion, a busnesau. Eto i gyd, gwelwyd ysbryd cymunedol ein sir gyda phobl yn helpu ei gilydd."

Profodd y Cyngor alw aruthrol ar wasanaethau yn ystod Storm Babet gan ddelio â dros 600 o alwadau ddydd Gwener a thros y penwythnos. Cymerodd y Ganolfan Gyswllt Cwsmer dros 500 o alwadau ar y dydd Gwener yn unig a chofnododd 195 o ddigwyddiadau. O 5pm ar y dydd Gwener tan 8.30am ar y dydd Llun, deliodd llinell y tu allan i oriau Sir Ddinbych â 118 o alwadau ychwanegol a chofnododd 63 o ddigwyddiadau. Roedd y rhain yn cynnwys llifogydd ar y ffyrdd a chau ffyrdd, llifogydd mewn eiddo, llifogydd afonydd, a difrod i eiddo.

Bu timau'r Cyngor yn gweithio drwy'r nos ar y dydd Gwener a thros y penwythnos i ddatrys amrywiaeth o faterion. Mae timau wedi parhau i weithio gydag unigolion sydd wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan lifogydd ac wedi gweithio i glirio malurion wnaeth effeithio ar lawer o ffyrdd gwledig y sir a cheuffosydd critigol.

Aeth y Cynghorydd McLellan ymlaen i ddweud, "Hoffwn hefyd ddiolch i waith diflino Swyddogion y Cyngor, rhai ohonynt a weithiodd drwy'r nos ac i mewn i'r penwythnos i ddelio â chanlyniadau Storm Babet."

Mae gwybodaeth am beth ddylech ei wneud os bydd llifogydd ar gael ar wefan y Cyngor:

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/argyfyngau/llifogydd.aspx

Gallwch ddarganfod sut i baratoi ar gyfer llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

https://naturalresources.wales/flooding/what-to-do-in-a-flood/?lang=cy

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...