Dweud eich dweud ar ailgylchu a newid gwastraff
Ers i ni lansio arolwg ar ein newidiadau ailgylchu a chasglu gwastraff arfaethedig, mae dros 1,300 ohonoch wedi dweud eich dweud.
Mae llawer ohonoch wedi cymryd rhan yn y ddadl; mae rhai ohonoch yn gwbl gefnogol, mae eraill yn gweld sut y bydd yn gweithio mewn egwyddor ac mae eraill wedi mynegi consyrn.
Rydym am weithio gyda chymunedau i gynyddu'r her a deall beth yw'r rhwystrau, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r materion hynny cyn i'r system gael ei chyflwyno (pe bai wedi'i gymeradwyo).
Mae'r Cyngor yn hysbysu eu preswylwyr am gynigion newydd i gynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau gwastraff yn y sir ac mae eisiau gweithio gyda chymunedau er mwyn wynebu’r her.
Yn hanesyddol mae gan y sir un o’r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru ac mae preswylwyr wedi chwarae rhan hanfodol yn y llwyddiant hwn. Er gwaethaf yr holl ymdrech, mae mwy na 5,000 tunnell o ailgylchu yn parhau i gael ei daflu trwy gasgliadau gwastraff cyffredinol sy’n costio £500,000, y gall yr arian fod yn cael ei wario ar wasanaethau cyngor angenrheidiol. Mae hon yn her arwyddocaol ac mae'r Cyngor angen ailgylchu mwy a lleihau costau gwaredu diangen. Yr unig ffordd i wneud hyn yw newid y ffordd y mae’r gwasanaeth gwastraff gweithio a thrwy newid y ffordd mae preswylwyr yn ailgylchu.
Y newidiadau arfaethedig i’n gwasanaethau ailgylchu yw:
- casgliad newydd wythnosol ar gyfer deunyddiau y gellir eu hailgylchu fel papur, gwydr, caniau a phlastig
- casgliad wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd
- casgliad newydd bob pythefnos ar gyfer dillad ac eitemau trydanol bychan
Gyda 64% o wastraff yn cael ei ailgylchu’n barod a chyda casgliad ailgylchu wythnosol gyda mwy o le, ychydig iawn o wastraff na ellir ei ailgylchu bydd ar ôl.
Felly mae’r Cyngor yn cynnig newid y casgliad o wastraff na ellir ei ailgylchu i bob pedair wythnos. Yn hytrach na’r biniau du 140 litr presennol, bydd y Cyngor yn darparu biniau du mwy, newydd, 240 litr yn eu lle.
Ar y cyfan, bydd gan gartrefi 35 litr o le ychwanegol bob wythnos er mwyn rheoli eu gwastraff ond mi fydd y sylw ar ailgylchu, er mwy rhwystro deunyddiau a ellir eu hailgylchu rhag cael eu rhoi yn y bin du heb fod angen. Mae hyn yn well i’r amgylchedd ac yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen bwysig eraill.
Mae’r Cyngor yn credu y bydd cynyddu maint y biniau i’r rhai mwy, newydd a chyflwyno casgliadau wythnosol ac ailgylchu, wedi’u cefnogi gan gasgliadau arbennig eraill, yn diwallu anghenion y preswylwyr.
Gall y rhan helaeth o gartrefi yn Sir Ddinbych gael eu symud i’r drefn newydd. Mae’r Cyngor wrthi’n adnabod y cartrefi hynny lle gall y drefn newydd fod yn anaddas. Lle bo angen, gallai’r Cyngor gyflwyno modelau amgen o gasgliadau.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Cabinet Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy: “Mae gan Sir Ddinbych un o’r cyfraddau ailgylchu gorau yng Nghymru. Mae mwy na 64% o wastraff yn cael ei ailgylchu. Diolch am wneud gwahaniaeth mawr.
“Fodd bynnag, mae angen i ni gyrraedd targed o 70% erbyn 2025 , ac mae trafodaethau yn mynd rhagddynt i gael targedau uwch, o bosib 80% yn y dyfodol. Felly, mae angen cymryd camau i ddatblygu’r model cywir ar gyfer Sir Ddinbych a gwastraffu llai. I wneud hynny, rydym eisiau deall anghenion ailgylchu pobl, clywed am unrhyw effaith posibl y gall y newidiadau hyn ei gael ar gartrefi a gweithio gyda chymunedau i reoli’r newidiadau arfaethedig.
“Rydym yn hyderus y gall cartrefi Sir Ddinbych wynebu'r her, ond mae rhai sefyllfaoedd lle gall hyn fod yn anoddach. Felly, rydym yn edrych ar gasgliadau clytiau; biniau ychwanegol ar gyfer teuluoedd mwy a pharhau i gynnig casgliadau cymorthedig i’r rhai sydd eu hangen.
“Dros yr wythnosau nesaf, bydd staff y Cyngor yn mynd o amgylch ein cymunedau, lle bydd cyfle i bobl glywed yr hyn a gynigir a siarad gyda swyddogion yn uniongyrchol. Byddwn yn trefnu ystod eang o brosiectau addysgol i gefnogi trigolion gyda ymdrechion ailgylchu. Bydd manylion yn ymddangos ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, ar y wefan ac yn y cyfryngau.
Mae’r Cyngor hefyd yn annog preswylwyr i gwblhau arolwg ar-lein ar www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchumwy fel y gall ddeall patrymau ailgylchu pobl a pha gamau sydd eu hangen i baratoi pobl ar gyfer y newidiadau arfaethedig. Gellir dod o hyd i gopïau o’r arolwg mewn llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a prif dderbynfeydd ar draws y sir.
Gellir hefyd dod o hyd i gwestiynau cyffredin a manylion o oriau agor parciau ailgylchu, ynghyd â rhestr gyflawn o ba eitemau a ellir eu hailgylchu ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchumwy
Byddai’r Cyngor yn disgwyl cyflwyno’r drefn newydd yn ystod 2020.