llais y sir

Haf 2018

Y Gylfinir Cymreig angen eich cymorth!

Y Gylfinir yn un o rywogaethau adar mwyaf eiconig Prydain. Mae ei gân groyw ac atgofus yn sŵn cyfarwydd; yn gennad Gwanwyn sydd yn gynhenid o fewn ein diwylliant.Welsh Curlew

Yn anffodus, mae’r Gylfinir o dan fygythiad difrifol, ac yn wynebu dyfodol ansicr trwy gydol Cymru ac mae’n prysur brinhau.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod Cymru wedi colli dros 80% o’i gylfinirod bridio ers 1990au. Efallai bod cyn lleied o 400 o barau bridio ar ôl yng Nghymru heddiw, ac erbyn hyn dyma flaenoriaeth gadwraeth adar mwyaf dybryd yn y DU. Cafodd ei roi ar ‘Restr Goch’ Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a’r DU (BoCC).

Heb ymyrraeth, mae lle i gredu y gallai Gylfinirod bridio ddiflannu o dirlun Cymru o fewn pymtheg mlynedd gyda’r gyfradd bresennol o ostyngiad. Mae angen i ni weithredu rŵan i'w atal rhag bod ar ei ffordd i ddifodiant.

Sut allwch chi helpu?

Mae’n hanfodol gwybod lle mae’r Gylfinirod. Rydym angen cymaint o gofnodion ag sy’n bosibl i wybod lle mae’r Gylfinirod yn ystod y tymor bridio (rhwng Ebrill a Mehefin). Os fyddwch chi’n dod ar draws unrhyw ylfinirod - neu os ydych chi wedi gweld neu glywed rhai dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gadewch i ni wybod.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy, anfonwch e-bost at Vicky Knight o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, vicky.knight@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 712729.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...