llais y sir

Haf 2018

Cofrestr tai fforddiadwy newydd i helpu pobl i brynu tai eu breuddwydion

Lansiwyd cyfle newydd i bobl gynyddu eu cyfleoedd i brynu tŷ eu breuddwydion ar draws Gogledd Cymru a Phowys.Tai Teg

Mae Tai Teg, Cofrestr Tai Fforddiadwy, yn gyfle Tai Fforddiadwy ar-lein i gofrestru pobl sydd mewn gwaith ond nad ydynt yn gallu fforddio tai’r farchnad.

Gelwir tŷ sy'n cael ei ddarparu ar gyfer rent neu i brynu ar gyfradd lai na gwerth y farchnad yn dŷ fforddiadwy.

Rydym yn gwybod nad yw nifer sylweddol o bobl yn Sir Ddinbych yn gallu fforddio rhent neu gyfradd prynu'r farchnad ac mae hwn yn gyfle i bobl gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd drwy adeiladau newydd a lleoedd gwag o fewn tai presennol.

Bydd Tai Teg yn cyflwyno’r broses cofrestru ar gyfer nifer o gynlluniau arloesol a fydd yn helpu pobl i ddringo ar yr ysgol eiddo neu ddiogelu tŷ rhent. Mae nifer o gynlluniau ar gael i’r rheiny mewn gwaith ac yn ennill rhwng £16,000 a £45,000, gyda rhai dewisiadau i’r rheiny sy’n ennill hyd at £60,000.

Nid yw Tai Teg yn cynnwys eiddo traddodiadol y Cyngor na’r Gymdeithas Tai i’w rhentu, sy’n cael eu trin drwy Un Llwybr Mynediad At Dai, cofrestr tai sengl cyffredin yn Sir Ddinbych. Mae Tai Teg yn gweithio ar y cyd gyda’r gofrestr tai cyffredin.

Dyma brosiect partneriaeth a arweinir gan Grŵp Cynefin yn cynnwys Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, yn cynnwys y Cyngor Sir a Chymdeithasau Tai eraill. Mae’r holl bartneriaid hyd wedi cydweithio’n agos i ddod â’r gofrestr ymlaen.

Caiff Tai Teg ei ddefnyddio fel tystiolaeth mewn trafodaethau ceisiadau cynllunio i gefnogi Cyngor Sir Ddinbych a Chymdeithasau Tai i gynllunio ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.

Mae darparu tai fforddiadwy yn Sir Ddinbych yn flaenoriaeth allweddol, gyda 250 o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu yn y Sir ers 2014. Mae nifer o ddatblygiadau wedi cael eu cynllunio ar draws y Sir a bydd cofrestr Tai Teg yn cael ei ddefnyddio i osod pobl mewn lleoedd gwag addas.

I ddarganfod rhagor a chofrestru eich diddordeb mewn cartref, ewch i www.taiteg.org.uk.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...