Dod i adnabod eich cymuned
Wrth ddatblygu syniad prosiect cymunedol, mae’n bwysig fod gennych ddealltwriaeth dda o'r ardal leol neu'r demograffig sydd i elwa. Mae hefyd yn fanteisiol defnyddio'r wybodaeth hon gan ddefnyddio ystadegau allweddol i helpu i arddangos yr angen am y prosiect i gyllidwyr.
Mae gwybodaeth ar ein gwefan a fydd yn eich helpu, gan gynnwys mapiau ar-lein a fydd yn eich galluogi i archwilio amrywiaeth o gyfleusterau, gwasanaethau a gwybodaeth am dir ledled Sir Ddinbych yn weledol.
Mapiau ar-lein
Mapiau ar-lein
Mae’n mapiau ar-lein yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Eich gwybodaeth Cyngor (gan gynnwys gwybodaeth etholaethau San Steffan), wardiau sirol, gorsafoedd pleidleisio, adeiladau cyngor, Aelodau Senedd Cymru a gwybodaeth am Gynghorau Dinasoedd Trefi a Chymuned
- Lleoliadau Parciau a Banciau Ailgylchu
- Gwybodaeth Cyngor i Ddefnyddwyr
- Cyfleusterau addysg
- Gwybodaeth am gyfleusterau hamdden, toiledau cyhoeddus a hawliau tramwy cyhoeddus
- Cyfleusterau Llyfrgell ac Archifau
- Gwybodaeth parcio, ffyrdd a theithio
- Rheoliadau Adeiladu a Chynllunio (gan gynnwys ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig, cynllun datblygu lleol, ceisiadau cynllunio a gorchmynion diogelu coed)