Yn ddiweddar, cyhoeddwyd bod y Cyngor wedi dod yn ail yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2024 yn dilyn cwblhau gwaith adfywio yng nghanol tref Corwen.

Dathlwyd y gwobrau prosiectau sy’n dangos rhagoriaeth mewn rheolaeth strategol ystâd sector cyhoeddus Cymru drwy hyrwyddo cydweithio ac arfer da.

Cydnabuwyd y Cyngor am eu gwaith cydweithio gyda Chadwyn Clwyd, Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen, Cyngor Tref Corwen ac aelodau lleol i gyflawni ystod o brosiectau gyda’r nod o gefnogi twf economaidd lleol, creu swyddi a chefnogi’r synnwyr o falchder lleol yng Nghorwen.

Roedd y prosiectau hyn yn rhan o fuddsoddiad £13 miliwn ar draws Dyffryn Dyfrdwy a ariannwyd gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyllid, a sicrhawyd yn 2021 drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Glandŵr Cymru, yn ceisio gwneud y mwyaf o botensial yr economi ymwelwyr yn dilyn COVID-19 a hynny yn Nyffryn Dyfrdwy a’r ardal o amgylch.

Cafodd £3.8M o’r cyllid hwn ei ddyrannu ar gyfer buddsoddi mewn 9 prosiect yng nghymunedau Corwen, Llangollen a Llandysilio yn Sir Dinbych a’r ardaloedd o amgylch.

Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen i gwblhau’r Rheilffordd Dreftadaeth newydd i’r dref, cyllid ar gyfer y fenter gymdeithasol Cadwyn Adfywio i gwblhau gwaith adnewyddu allanol ar adeilad Canolfan Llys Owain ac ystod o welliannau parth cyhoeddus i’r stryd fawr a’r maes parcio yng Nghorwen.

Roedd y newidiadau parth cyhoeddus yn cynnwys adfer a disodli dodrefn stryd, lloches fws newydd, gosod deg o fannau gwefru cerbydau trydan newydd ac adnewyddu’r bloc toiledau ym maes parcio Lôn Las sydd nawr o dan reolaeth Cyngor Tref Corwen.

Yn y seremoni, cyflwynwyd y wobr i’r swyddogion gan Jayne Bryant, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n braf iawn gweld gwaith caled ein swyddogion a phartneriaid yn cael ei gydnabod am y gwaith gwych maen nhw wedi’i wneud yng Nghorwen. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid dros y tair blynedd diwethaf i ddod â gwelliannau cyffrous i’r ardal leol a hoffem ddiolch i bawb am eu gwaith caled drwy gydol y prosiect. Hoffwn hefyd ddiolch i’r gymuned am eu cydweithrediad ac amynedd dros y tair blynedd diwethaf pan oedd y prosiect y cael ei gwblhau.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan.