Mae'r Cyngor yn edrych ymlaen i ehangu ei wasanaeth ail-alluogi o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, sy’n helpu preswylwyr i wneud pethau cyffredin megis gwisgo a choginio, trwy recriwtio 8 o Weithwyr Cymorth Ailalluogi newydd. Mae hyn yn ffurfio rhan o drawsnewidiad Sir Ddinbych er mwyn sicrhau Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, a hefyd yn helpu i liniaru ychydig ar y pwysau ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu.
Bydd y staff newydd yn cefnogi pobl sydd angen cymorth i adennill y sgiliau i wneud gweithgareddau bob dydd megis coginio prydau, golchi, gwisgo, symud o amgylch y cartref a mynd allan.
Mae nifer o resymau pam y gall pobl fod angen y cymorth hwn, megis yn dilyn cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty. Gall y gefnogaeth bara am gyn lleied ag wythnos neu bythefnos, ond gellir ei gynnig am hyd at chwe wythnos os oes angen.
Yn ogystal â’r gefnogaeth hon, mae’r Tîm Gofal a Chymorth yn cynnig Cymorth Cartref hirdymor pan fo angen.
Dywedodd Darylanne, Uwch Weithiwr Gofal a Chymorth yn y Cyngor: “Mae ein Gwasanaeth Ailalluogi yn helpu pobl i ddysgu neu ail-ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen i allu ymgysylltu mewn gweithgareddau bob dydd, a bod mor annibynnol â phosibl. Mae’n hynod o foddhaus gweld rhywun yn adennill eu hannibyniaeth ac yn dechrau byw eu bywydau yn llawn.”
Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Digartrefedd Oedolion: “Mae gallu byw fel y dymunent yn eu cartrefi eu hunain yn hynod o bwysig i’n preswylwyr, ac rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i’w helpu gyda hyn. Gyda’r gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, gallwn helpu preswylwyr i gael cyfle gwell o gynnal eu lles, yn ogystal ag aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am amser hirach. Rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau helpu preswylwyr i ennill sgiliau er mwyn eu helpu i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi, i ymuno â’n tîm, a darganfod y rôl foddhaus o ofal am y rhai sydd angen ein help.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Yn aml mae preswylwyr sydd newydd gyrraedd adref o’r ysbyty neu ar ôl triniaeth angen cefnogaeth i addasu yn ôl i fywyd domestig, angen help gyda thasgau dyddiol megis coginio, glanhau neu efallai help i wneud eu siopa. Mae gan Weithiwr Cymorth Ailalluogi llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da, empathi, ac yn bennaf, ymrwymiad gwirioneddol i helpu’r rhai sydd ei angen. Anogwn unrhyw un sy’n teimlo fel hyn i ddod i ymuno â’n tîm angerddol a gofalgar.”
Gellir dod o hyd i’r swydd ddisgrifiad llawn a manylion ymgeisio ar ein gwefan.
I gael sgwrs anffurfiol am y rolau hyn, gall ymgeiswyr ymweld â Hafan Deg, Llys y Gofgolofn, Grange Road, Y Rhyl, LL18 4BS rhwng 4.30pm - 5.30pm ar ddydd Iau trwy gydol mis Ionawr a Chwefror.