Mae cofeb hanesyddol yng Nghorwen yn cefnogi gwaith i helpu dyfodol cenedlaethau o natur a chymunedau.

Mae timau Newid Hinsawdd a Thirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i ddarparu cefnogaeth newydd i natur ac ymwelwyr ei mwynhau o dan lygad barcud cofeb Bryngaer Oes Haearn Caer Drewyn.

Mae dros 1,500 o goed wedi’u plannu ar y llethrau isaf o dan y fryngaer er mwyn helpu i greu cynefinoedd newydd llawn rhywogaethau amrywiol i gefnogi’r byd natur lleol.

Mae gwrych 190 metr o hyd wedi’i greu gyda chymorth disgyblion Ysgol Caer Drewyn, sy’n cynnwys dros 1,000 o goed chwip gan gynnwys y Ddraenen Wen, Y Ddraenen Ddu, Cyll, Celyn, Rhosyn Gwyllt, Rhosyn Bwrned, Gellyg Gwyllt ac Afalau Surion.

Mae'r gwrych hefyd yn cynnwys 19 o goed maint safonol gan gynnwys Derw Digoes, Derw Coesynnog, Bedw Arian, Bedw Cyffredin a Chriafolen.

Wrth ymyl y clawdd mae 389 o goed wedi’u plannu ar 2.4 hectar o dir. Bydd y safle newydd hwn yn cynnwys coed Criafolen, Bedw Arian, Bedw Cyffredin, Draenen Wen, Rhosyn Gwyllt, Cyll, Draenen Ddu, Celyn, Afalau Surion, Derw Digoes, Ysgaw, Aethnen a Breuwydd.

Plannwyd y coed gyda chwech i saith metr rhyngddynt er mwyn creu ardal o gynefin coetir a fyddai’n fwy ffafriol i fyd natur lleol.

Mae’r datblygiad yma’n rhan o waith y Cyngor i fynd i’r afael â’r Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol a ddatganwyd yn 2019 a’i fwriad i fod yn Ddi-garbon Net ac yn awdurdod lleol Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Mae colli a darnio cynefinoedd yn fygythiadau mawr i fioamrywiaeth, ac mae newid hinsawdd yn gwaethygu hyn drwy gyfyngu ar allu rhywogaethau i gael mynediad at gynefinoedd mwy ffafriol.

I Gaer Drewyn, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.

Mae datblygiadau eraill ar y safle yn cynnwys gwella ardaloedd o rostir a datblygu ardal o gynefin gwlyptir. Mae llwybrau troed ar y safle yn cael eu gwella, ochr yn ochr â ffensys a giatiau mynediad newydd.

Mae’r prosiect creu coetir wedi derbyn cyllid grant gwerth £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU ac mae’n cael ei gynnal ochr yn ochr â phrosiectau eraill yng Nghaer Drewyn, gan gynnwys menter gwella tirwedd, a ariennir gan y Grid Cenedlaethol, a mesurau yn yr ardal ehangach i warchod y gylfinir.

Bydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn y tymor hir fel rhan o’u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.