Mae ardal newydd o wlyptir yn cael ei ffurfio ar Fryniau Clwyd i gynorthwyo i gefnogi natur yn lleol.
Mae gwaith creu gwlyptir ychwanegol ar y gweill ar safle gwarchodfa natur Moel y Plas, ger Llanarmon yn Iâl.
Mae tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ar y cyd gyda Chyngor Sir Ddinbych, yn datblygu ardal ar y bryniau er budd natur a chymunedau lleol.
Mae bron i 18,000 o goed llydanddail cynhenid wedi’u plannu ar y safle i greu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau amrywiol, mae llwyni wedi’u plannu i wella cysylltedd ar draws y safle a thrwy weithio gyda phrosiectau ffarmio bu modd dechrau adfer cynefinoedd ucheldir fel Rhostiroedd a Ffriddoedd drwy ailgyflwyno anifeiliaid pori.
Mae hygyrchedd ar gyfer ymwelwyr yr ardal wedi’i wella hefyd gyda ffensys newydd, arwyddion a giatiau mochyn er mwyn sicrhau bod y llwybrau’n hygyrch ac yn hawdd eu dilyn.
Bydd yr ardal newydd o wlyptir ym Moel y Plas yn gymorth i ddarparu lloches a bwyd ar gyfer nifer o anifeiliaid ac yn annog ystod eang o blanhigion i dyfu yno. Bydd y math yma o ardal hefyd yn storio carbon sy’n gymorth i liniaru effaith Newid Hinsawdd a gall weithredu fel rhwystr llifogydd naturiol drwy amsugno dŵr yn ystod cyfnodau o law trwm.
Gall ystod eang o fywyd gwyllt ddefnyddio’r math yma o gynefin sydd ar y gweill ym Moel y Plas, gan gynnwys Llygod Pengrwn y Dŵr, Chwistlod y Dŵr, Brogaod Cyffredin, Hwyaid Gwyllt, Crehyrod Glas, Crehyrod Bach Copog a Glas y Dorlan hyd yn oed.
Mae modd canfod pryfaid fel Rhianedd y Dŵr a Chwilod Dŵr yn y cynefin hefyd ochr yn ochr â Mursennod. Gall gwlyptiroedd annog tyfiant blodau gwyllt, fel Tegeirian Bera.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae colli ein tir cynefin yn fygythiad mawr i fioamrywiaeth lleol ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wrthdroi hynny. Fe fydd yr ardal o wlyptir a ddatblygir ym Moel y Plas, sy’n safle gwych ar gyfer natur ac ymwelwyr, yn gymorth i annog nifer o rywogaethau i ffynnu eto ym Mryniau Clwyd.”
Ar gyfer datblygiad Moel y Plas, fe grëwyd coetir a gwrychoedd i wella cysylltedd rhwng cynefinoedd cyfagos sydd eisoes yn bodoli fel coridorau bywyd gwyllt.
Mae’r prosiect creu coetir wedi cael cyllid allan o grant o £800,000 a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Ddinbych gan Lywodraeth y DU.
Bydd tîm ceidwaid Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau i reoli’r safle yn yr hirdymor fel rhan o’u rôl i sicrhau bod amgylchedd yr ardal o harddwch naturiol eithriadol yn cael ei wella a’i amddiffyn a bod y tir yn cael ei wneud yn fwy hygyrch.