Mae Ceidwaid Cefn Gwlad Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain cyfres o deithiau cerdded tywys yn Nyffryn Dyfrdwy.

Gan groesi rhannau o dde Sir Ddinbych, fe edmygir Dyffryn Dyfrdwy am ei thirwedd a’i golygfeydd anhygoel sy’n gymysgedd o rostir grug, creigiau calch, coedwigoedd hynafol a chopâu gwyllt, ac afon Dyfrdwy’n llifo’n fawreddog drwy ganol popeth.

Bu’r tirluniau hardd, copâu gwefreiddiol a’r trefi a phentrefi hanesyddol yn ysbrydoliaeth ar gyfer chwedlau, llenyddiaeth, celf a cherddoriaeth ers canrifoedd lawer.

Mae Ceidwaid y Tirwedd Cenedlaethol, gyda chefnogaeth gan Natur er Budd Iechyd, yn arwain teithiau tywys rheolaidd yn Nyffryn Dyfrdwy, er mwyn amlygu’r gwaith maent yn ei wneud i warchod a diogelu’r ardal, a thywys pobl i fanteisio ar y tirweddau a’r dreftadaeth sy’n ei gwneud mor arbennig, a mwynhau’r buddion ychwanegol o fod allan yn yr awyr agored.

Fe fydd y daith dywys nesaf yn mwynhau’r Lili Wen Fach yn Eglwys Sant Tysilio, ddydd Iau 6 Chwefror rhwng 1pm a 3pm. Y man cyfarfod fydd Maes Llantysilio. Gan edrych allan dros Rhaeadr y Bedol, mae Eglwys Sant Tysilio yn enwog am garped o Lili Wen Fach, sydd yn ôl y sôn yn dyddio o’r 13eg Ganrif.

Ddydd Mawrth 11 Mawrth, rhwng 1pm a 3pm, fe fydd Ceidwaid yn arwain taith dywys o amgylch Gwarchodfa Natur Wenffrwd a Chamlas Llangollen. Mae’r warchodfa yn ymdroelli drwy amrywiaeth o gynefinoedd ac yn rhoi golygfeydd hardd ar draws yr Afon Dyfrdwy. Y man cyfarfod ydi Gwarchodfa Natur Wenffrwd.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Mae mynd allan i’r awyr agored mor fanteisiol ar gyfer hybu iechyd corfforol a meddyliol a byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â’r teithiau tywys gwych hyn gan y ceidwaid i ddysgu am reolaeth a hanes ardal Dyffryn Dyfrdwy.”

I gael rhagor o fanylion ac i archebu lle ar y teithiau cerdded, e-bostiwch chloe.webster@sirddinbych.gov.uk.