llais y sir

Llais y Sir. Gorffennaf 2023

Tŷ treftadaeth Rhuthun yn cynnal taith gerdded natur nosol

Yn ddiweddar, bu criw sy’n hoff o natur nosol yn cwrdd â phreswylwyr safle treftadaeth yn Rhuthun.

Bu Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn helpu i ddatgloi trefn nosol ystlumod sy’n byw yn Nantclwyd y Dre yn ystod digwyddiad cyhoeddus yno.

Fel rhan o Wythnos Blodau Gwyllt ddiweddar y Cyngor, cynhaliwyd noson Ystlumod yn y safle treftadaeth i ganiatáu i’r cyhoedd weld rhai o’r mamaliaid yn dod yn fyw wrth iddi dywyllu.

Mae’r tŷ rhestredig Gradd I yn gartref i’r Ystlum Pedol Lleiaf, Ystlum Hirglust a’r Ystlum Lleiaf ac mae camera unigryw yno er mwyn i bobl eu gwylio pan fo’r tŷ ar agor.

Defnyddiwyd offer canfod ystlumod ac offer gweld yn y nos i helpu’r grŵp i weld a dilyn yr anifeiliaid yn y tywyllwch yn ystod y digwyddiad.

Bu Joel Walley, Swyddog Ecoleg, yn helpu i arwain y grŵp trwy’r noson i archwilio prysurdeb nosweithiau’r ystlumod.

Dywedodd: “Roedd yn wych mynd â’r grŵp o amgylch y safle treftadaeth gwych hwn yn Rhuthun, sy’n gartref i boblogaeth gref iawn o ystlumod. Roedd hi’n wych gweld yr ymgysylltu a’r diddordeb yn arferion yr anifail ac rwy’n gobeithio bod y profiad wedi’u helpu i ddeall ymddygiad pob rhywogaeth o ystlumod yn y DU ar ôl iddi nosi.

Dywedodd Kate Thomson, Rheolwr Nantclwyd y Dre: “Gall ymwelwyr â’r tŷ a’r ardd weld ein clwyd arbennig o ystlumod yn fyw trwy’r camerâu ystlumod yng ngofod yr atig. Maen nhw’n rhyfeddol o actif hyd yn oed yn ystod y dydd oherwydd byddan nhw’n cael eu rhai bach a’u magu nhw yma yn Nantclwyd. Mae'r gerddi helaeth yn llawn blodau gan ddarparu gwyfynod a phryfaid sydd eu hangen ar yr ystlumod i fwydo arnynt! Mae’r tŷ a’r ardd ar agor bob dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn rhwng 11am a 5pm.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae Nantclwyd y Dre yn lle gwych i ddysgu am hanes yn Sir Ddinbych ac mae’n lle pwysig iawn ar gyfer diogelu bioamrywiaeth leol. Rwy’n falch iawn bod aelodau’r cyhoedd wedi gweld sut mae’r tîm yn y tŷ yn mynd gam ymhellach i ddiogelu’r nifer o ystlumod sy’n byw yno.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...