llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2024

Mae storïau gofalwyr maeth yn dangos y ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ i gefnogi plant lleol sy’n derbyn gofal

Mae dros 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. 

Ar hyn o bryd mae oddeutu 180 o blant mewn gofal maeth yn Sir Ddinbych ac mae angen mwy o ofalwyr maeth i sicrhau y gall blant aros yn eu cymuned leol, pan mae’n iawn iddynt hwy.

Roedd gan Faethu Cymru – y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu 22 awdurdod lleol Cymru – y nod mentrus o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol. 

Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych wedi ymuno â’r ymgyrch newydd o’r enw ‘gall pawb gynnig rhywbeth’, gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach, ond sylweddol, sydd gan bobl a all wneud y byd o wahaniaeth i unigolyn sy’n derbyn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch, yn cynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd a’r rhai sy’n gadael gofal.

Roedd yr ymatebion gan y grwpiau hyn yn tynnu sylw at dri pheth allweddol a oedd yn rhwystro gofalwyr posibl rhag ymholi:  

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn sy’n derbyn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camddealltwriaeth ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr. 

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gan ofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu gyda’r awdurdod lleol yn hyblyg, cynhwysol, ac yn cynnig cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Mae gofalwyr maeth Sharen a Colin wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yn Sir Ddinbych ers 23 mlynedd. Maent wedi ffocysu’n bennaf ar faethu plant yn eu harddegau gan eu bod yn teimlo eu ‘hanwybyddu’ o fewn Gofal Maeth gyda’r canfyddiad eu bod yn fwy anodd eu rheoli.

Meddai Sharen: “De ni wedi maethu nifer o blant yn eu harddegau dros y blynyddoedd ac rydym ni’n ffynnu gyda’r manteision a ddaw yn sgil maethu plant yn eu harddegau.” meddai Sharen. Yn aml mae plant yn eu harddegau’n cael eu camddeall, ac maent yn mynd i ofal mewn cyfnod pan maen nhw’n ymwybodol iawn o’r hyn sy’n digwydd. 

Mae pobl yn meddwl bod plant yn eu harddegau yn gymhleth ac er bod yna heriau yn dod gyda nhw, gall yr arweiniad, sefydlogrwydd iawn, a’r diogelwch a roddir i blentyn yn ei arddegau fod yn help mawr wrth siapio eu dyfodol.   

Fe aeth un o’n plant maeth i brifysgol yn ddiweddar. Mae gan un arall swydd lawn amser, wedi cynilo arian ac wedi prynu eu car eu hunain.  Mae eu gweld yn cyrraedd cerrig milltir, cael annibyniaeth a throi mewn i oedolion gofalgar, hyderus wedi rhoi andros o foddhad i ni fel teulu.”

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae bob amser yn bleser cael cyfarfod â’n gofalwyr maeth Sir Ddinbych Maethu Cymru, a dod i’w hadnabod a’u hanes yn well. Does dim stori’r un fath, ond yr hyn sydd ganddynt i gyd yn gyffredin yw’r dymuniad i ddarparu cartref diogel a sefydlog, ac yn cynnig gofal a chefnogaeth i’n plant sydd mewn angen.

Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych yn dîm gwych, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am faethu i gysylltu.”

Ychwanegodd Julie Fisher, Rheolwr Tîm, Maethu Cymru Sir Ddinbych: “Mae ein gofalwyr maeth yr awdurdod lleol yn Maethu Cymru Sir Ddinbych yn gwneud gwaith anhygoel, yn cefnogi plant drwy gynnig eu sgiliau, profiad, empathi a charedigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddiogel. 

Ond mae angen i ni recriwtio mwy o bobl anhygoel yn ein hardal i sicrhau bod yr holl blant lleol sydd ei angen yn cael cartref croesawgar a’r gofalwr maeth iawn ar eu cyfer.

Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych, bydd y tîm yn sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth a chymorth lleol pwrpasol, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicaf oll, gallwch helpu plant i aros yn eu cymunedau lleol, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddynt.

Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i rannu eu sgiliau a’u profiad a chysylltu â Maethu Cymru Sir Ddinbych.”  Dewch yn rhan o’ch cymuned maethu leol.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i gwefan Maethu Cymru.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...