Lansiwyd apêl i helpu cysylltu’r gylfinir ag amddiffyniad angenrheidiol y tymor hwn.

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cymryd rhan ym mhrosiect ‘Cysylltu Gylfinir Cymru’, prosiect a gynhelir gan y bartneriaeth Adfer y Gylfinir sy’n gweithio â Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfeydd a Bywyd Gwyllt.

Mae Gylfinir Cymru’n bartneriaeth genedlaethol sydd â’r nod o roi hwb i’r gylfinirod sy’n magu ledled y wlad, gan gynnwys Sir Ddinbych.

Mae gwaith hwn yn mynd yn ei flaen i amddiffyn y gylfinir mewn deuddeg o ardaloedd yng Nghymru, wedi’i ariannu drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Mae’r prosiect yn cynnwys yr AOHNE, sef ardaloedd mawr o Sir Ddinbych, a rhannau o Sir y Fflint a Wrecsam.

I helpu i gael y cymorth a’r warchodaeth gywir i’r adar yn yr ardal, mae’r tîm y prosiect yn awyddus i weithio gyda gwirfoddolwyr cymunedol i fonitro gweld a chlywed y gylfinir o’r tir.

Esboniodd y Swyddog Gylfinir a Phobl Leol, Sam Kenyon: Mae’r gylfinir dan fygythiad ledled y DU oherwydd rhesymau megis colli cynefin, torri cnydau porthi’n gynt yn ystod y tymor nythu ac anifeiliaid eraill yn eu lladd.

“Beth fyddwn yn ei wneud yn y dyfodol agos yw monitro ac arolygu yn ystod y gwanwyn i gael syniad da o le rydym angen targedu ein hymdrechion yn wledig. Gan fod hon yn ardal fawr, rydym yn chwilio am gefnogaeth gan aelodau o’r gymuned leol i’n helpu ni leoli’r gylfinir drwy eu gweld a’u clywed mewn mannau nad oes mynediad i’r cyhoedd, a hefyd cymryd rhan mewn monitro trwy gydol y tymor.

“Byddwn yn cefnogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i helpu’r adar prin hyn i oroesi yn yr ardal, ac mae’n gyfle gwych i fod yn yr awyr agored i helpu eich lles chi, yn ogystal â’r gylfinir.”

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu sôn am unrhyw ylfinirod rydych chi wedi’u gweld neu’u clywed yn yr ardaloedd sydd wedi’u rhestru ar What 3 Words, e-bostiwch samantha.kenyon@denbighshire.gov.uk.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae hwn yn brosiect arbennig o bwysig i helpu’r gylfinir oedd unwaith i’w weld yn aml, nid yn unig yn Sir Ddinbych a gogledd Cymru ond ledled y Deyrnas Gyfunol. Rwy’n ddiolchgar bod y prosiect a’r cyllid yn caniatáu i’r AHNE fynd ati go iawn i ddiogelu’r gylfinir, a byddaf yn annog y sawl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli i helpu’r poblogaethau i oroesi yn y gobaith y byddant yn ffynnu yn y dyfodol.