llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2024

Amserlen ddosbarthu ar gyfer cynwysyddion ailgylchu newydd

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd gwasanaeth ailgylchu a gwastraff newydd yn dechrau ddydd Llun, 3 Mehefin 2024.

Fel rhan o’r gwasanaeth newydd hwn, bydd trigolion y sir sydd â biniau ar olwynion ar hyn o bryd yn derbyn Trolibocs newydd i ailgylchu papur, gwydr, plastig, tuniau a chartonau bwyd a bag hesian i ailgylchu cardfwrdd. Bydd y trigolion hynny sy'n ailgylchu gyda sachau pinc untro ar hyn o bryd yn derbyn bagiau hesian newydd ailddefnyddiadwy.

Rhaid i'r Cyngor ddosbarthu'r cynwysyddion hyn i dros 45,000 o gartrefi ledled y Sir, tra'n parhau i ddarparu'r gwasanaeth ailgylchu a chasglu gwastraff presennol. Felly, mae'n rhaid i'r broses hon ddechrau'n gynnar gyda'r cynwysyddion cyntaf wedi cychwyn cael eu dosbarthu.

Dywedodd Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaeth, Priffyrdd ac Amgylcheddol, “Byddwn yn danfon cynwysyddion i drigolion rhwng 23 Chwefror a 17 Mai. Rydym yn ymwybodol bod hyn yn gynnar ac y bydd yn rhaid i rai preswylwyr storio cynwysyddion ychwanegol am gryn amser cyn i’r gwasanaeth newydd ddechrau. Fodd bynnag, dyma'r unig ffordd i sicrhau bod yr holl breswylwyr wedi derbyn eu cynwysyddion mewn da bryd cyn i'r gwasanaeth ddechrau ar 3 Mehefin. Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra, ond gobeithiwn fod trigolion yn deall nad oes modd osgoi hyn.”

Dyma Paul Jackson, Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor i egluro am y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu newydd. 

Mae'r amserlen ar gyfer danfon y cynwysyddion newydd ar wefan y Cyngor ar www.sirddinbych.gov.uk/statws-gwasanaeth-ailgylchu. Sylwch, mae'r holl amserlenni dosbarthu cynwysyddion yn rhai bras a gall y dyddiadau newid.

Yn ogystal â chynwysyddion newydd, bydd trigolion yn derbyn pecyn gwybodaeth yn egluro’r newidiadau’n fanwl, yn dangos pa fath o eitemau cartref ddylai fynd i ba gynhwysydd a sut i gyflwyno cynwysyddion ar y diwrnod casglu. Bydd y pecynnau hyn ym mlwch uchaf y Trolibocs neu yn y bag hesian ailddefnyddiadwy ar gyfer cardfwrdd a dylid eu cadw'n ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae gan y system ailgylchu newydd lawer o fanteision i drigolion a’r sir. Mae'n well i'r amgylchedd gan y bydd yn arwain at gyfraddau ailgylchu uwch; bydd yn rhatach i'w redeg gan ddarparu gwell gwerth am arian; mae hefyd yn dda i'r economi leol gan arwain at greu 27 o swyddi newydd, ac mae manteision economaidd wedi i bedwar busnes lleol ehangu ar Ystad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.

“Mae hon yn ymdrech ar y cyd rhwng ein Tîm Gwastraff ac Ailgylchu a phobl Sir Ddinbych a hoffwn ddweud diolch, gan fod eich ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Beth sy'n newid?

  • Casglu ailgylchu a chardfwrdd bob wythnos
  • Bydd y Cyngor yn casglu 250 litr o ailgylchu bob wythnos yn lle 240 litr bob pythefnos.
  • Casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu bob pedair wythnos mewn bin mwy 240 litr (yn wythnosol os cesglir gwastraff mewn bagiau ailddefnyddiadwy).
  • Casglu eitemau trydanol bach a batris cartref bob wythnos.
  • Casglu tecstilau bob pedair wythnos.
  • Casgliad newydd wythnosol o gynnyrch hylendid amsugnol (e.e., clytiau, weips, padiau anymataliaeth a phadelli gwelyau a leinin untro). Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, ond rhaid i breswylwyr gofrestru erbyn 1 Mawrth ar gyfer y rownd gofrestru gyntaf hon. Bydd rownd arall yn agor yn yr hydref.

Beth sy'n aros yr un peth?

  • Casgliad gwastraff bwyd bob wythnos.
  • Casglu gwastraff gardd bob pythefnos (gwasanaeth y codir tâl amdano).

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...