llais y sir

Llais y Sir: Mawrth 2024

Gweu dros achos da

Bob prynhawn Mercher mae grŵp yn cwrdd yn Llyfrgell Rhuddlan i sgwrsio, gweu a chodi ymwybyddiaeth ynglŷn ag achos pwysig iawn.

Daw’r grŵp gweu ynghyd i greu amrywiaeth o eitemau gwlân i godi arian ac ymwybyddiaeth o Ffibrosis yr Ysgyfaint, cyflwr sydd wedi effeithio ar sawl aelod o’r grŵp.

Mae Ffibrosis yr Ysgyfaint yn achosi creithiau mewnol sy’n ei gwneud yn anodd i bobl anadlu. Mae’r creithiau’n troi meinwe’r ysgyfaint yn drwchus ac anystwyth, sy’n peri trafferthion ag amsugno ocsigen i’r gwaed. Mae o Ffibrosis yr Ysgyfaint yn effeithio ar tua 70,000 o bobl yn y Deyrnas Gyfunol.

Sue a Jackie a lansiodd y grŵp wedi i’r cyflwr effeithio ar aelod o’u teulu, a buont yn gweu mewn ystafell haul ar y cychwyn cyn symud i’r llyfrgell wedi i’r niferoedd gynyddu.

Llai na mis ers iddynt symud i’r llyfrgell mae bron teirgwaith cymaint o bobl yn dod, ac mewn sesiwn diweddar fe ddaeth pymtheg o bobl gyda’u nodwyddau.

Mae’r grŵp yn gwerthu’r eitemau gwlân i godi arian at yr achos, ac yn rhoi unrhyw eitemau sy’n weddill i achosion da eraill yn lleol, gan gynnwys pymtheg o flancedi i Fyddin yr Iachawdwriaeth dros y Nadolig. Maent wrthi’n paratoi ar gyfer y Pasg ac yn brysur yn gweu nifer o hwyaid, cywion, cwningod ac ŵyn bach.

Cynhaliwyd bore coffi i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned fis Medi diwethaf gan godi mwy na £2,500 at yr achos a bwriedir cynnal un arall fis Medi eleni.

Dywedodd y grŵp: “Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i’r Llyfrgell am adael inni ddefnyddio’r lle a bod mor groesawgar, mae’n lle gwych i gynnal sesiynau.

"Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl wirfoddolwyr sy’n gweu, mae croeso i bawb yma.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Mae’r llyfrgelloedd yn ein cymunedau ni wedi dod yn fwy na dim ond lleoedd i ddarllen, ac mae’r grŵp yma sy’n cwrdd i godi ymwybyddiaeth yn enghraifft berffaith o hynny.

"Rydw i’n eithriadol o falch bod rhywun yn defnyddio’r lle ar gyfer achos mor deilwng, a bod y creadigaethau gwlanog mor wych hefyd!”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...