Mae cyfleoedd i helpu i ofalu am ardaloedd arfordirol yn helpu i gefnogi iechyd gwell i gymunedau, gwirfoddolwyr a hefyd yn gwella amgylcheddau lleol.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr gyda Natur er Budd Iechyd i helpu pobl i fwynhau’r awyr agored a lles corfforol a meddyliol a dod yn fwy heini yn gorfforol.

Mae Natur er Budd Iechyd yn brosiect cydweithredol sy’n ymgysylltu unigolion a chymunedau i hyrwyddo sut all mynediad at natur wella iechyd a lles.

Mae Rhaglen Natur er Budd Iechyd wedi cael £703,854 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Roedd ceidwaid cefn gwlad ynghyd â Gwirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd wedi helpu i wneud gwaith atgyweirio o amgylch Harbwr y Rhyl yn ddiweddar gan gynnwys newid coed ar y llwybr pren a chynnal a chadw’r meinciau.

Roedd y grŵp hefyd wedi gosod disgiau ac arwyddbyst newydd ar Lwybr Arfordir Cymru gyda’r cynlluniau lliw cywir o amgylch yr harbwr a Thrwyn Horton.

Mae clirio prysgwydd wedi bod yn flaenoriaeth dros fisoedd y gaeaf, a chafwyd sesiynau ar dwyni Barkby a Gronant. Bu’r gwirfoddolwyr dan arweiniad y ceidwaid yn gwneud gwaith cynnal a chadw pwysig ar y blychau gwenyn unigol (mewn lleoliad), gan eu glanhau’n iawn a sicrhau eu bod nhw’n barod i gael eu gosod allan unwaith eto yn y gwanwyn.

Eglurodd Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Mae wedi bod yn dda iawn cael y gwirfoddolwyr yn gofalu am eu lles eu hunain drwy helpu gyda’r gwaith awyr agored pwysig hwn i wella’r ardaloedd ar gyfer natur a’r bobl sy’n dod i ymweld ar gyfer eu hanghenion iechyd eu hunain.

“Mae gwirfoddoli yng nghefn gwlad yn ffordd wych i roi hwb i’ch iechyd, cael profiad a hefyd gofalu am yr amgylchedd ble rydych yn byw hefyd.

“Bydd y gwaith cynnal a chadw pwysig maent wedi helpu i’w wneud ar y blychau gwenyn unigol yn creu lle i’r saerwenynen goch a’r wenynen ddeildorrol ddodwy eu hwyau, a fydd yna’n datblygu i fod yn wenyn yn eu llawn dwf yn y gwanwyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio: “Mae bod allan yn yr awyr agored mor bwysig ar gyfer rhoi hwb i iechyd meddwl a chorfforol ac rydym yn ddiolchgar am y gwaith hwn a wnaed gan y ceidwaid a’r gwirfoddolwyr a gobeithio eu bod wedi mwynhau er mwyn eu lles eu hunain.

“Mae hefyd yn bwysig gwarchod natur yn yr amgylcheddau anhygoel hyn sydd gennym ar yr arfordir a bydd hyn yn helpu i gadw’r ardaloedd a’r cynefinoedd hyn i bobl ymweld a mwynhau.

Mae gwaith i ddod ar hyd yr arfordir yn cynnwys trawsblannu moresg yn Harbwr Y Rhyl a helpu yn y nythfa ar gyfer môr-wenoliaid bychain. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn helpu gysylltu â Claudia ar 07785517398 neu anfon e-bostClaudia.Smith@sirddinbych.gov.uk