Mae pêl-droedwyr wedi helpu i ddechrau’r gwaith o ddatblygu lle cymunedol newydd ar gyfer natur yn Llanelwy.

Mae timau Gwasanaeth Cefn Gwlad a Newid Hinsawdd y Cyngor wedi dechrau’r gwaith o ddatblygu pedwar lle cymunedol newydd ar gyfer natur yn y sir er mwyn rhoi hwb o ran manteision i fywyd gwyllt a thrigolion lleol.

Dechreuodd y gwaith heddiw yng Nglan Elwy, Llanelwy, yn sgil cefnogaeth leol gan dimau ieuenctid clwb pêl-droed y ddinas a Grŵp Gofal Elwy.

Mae Prosiect Mannau Natur Cymunedol wedi cael £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd y gwaith gwella bioamrywiaeth yma hefyd yn cefnogi ymdrech y Cyngor i leihau ôl-troed carbon y sir drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno).

Bydd Glan Elwy’n canolbwyntio ar ddarparu mannau cynefin cryfach i natur elwa ohonynt yn ogystal â mannau cymunedol i drigolion hen ac ifanc eu mwynhau a dysgu gan fywyd gwyllt lleol.

Mae gwirfoddolwyr, ynghyd â staff y Cyngor wedi plannu bron i 2,000 o goed ar y safle.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn parhau i feithrin a thyfu ein coetiroedd lleol sydd eisoes wedi gweld ardaloedd gwych ar gyfer natur a chymunedau yn cael eu creu yn Y Rhyl, Prestatyn, Rhuthun, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

“Mae’r ardaloedd hyn yn dod a chynefinoedd yn ôl ar gyfer ein natur lleol ond hefyd yn cefnogi’r cymunedau cyfagos, i roi rhywbeth i drigolion fod yn falch ohono a dyna pam y gelwir y gwaith eleni yn brosiect Mannau Natur Cymunedol ac rydym ni’n falch o ddechrau’r gwaith yma yn Llanelwy.

“Rydym ni dal yn awyddus i glywed a hoffai trigolion gymryd rhan yn y safleoedd eraill ar gyfer diwrnodau plannu coed ac unrhyw gyfleoedd eraill i wirfoddoli neu gael hyfforddiant”.

Os oes gennych chi ddiddordeb, e-bostiwch newidhinsawdd@sirddinbych.gov.uk