llais y sir

Llais y Sir: Medi 2021

Cyrraedd targed cartrefi fforddiadwy Sir Ddinbych

Cyrhaeddwyd targed uchelgeisiol i greu mwy o gartrefi fforddiadwy yn Sir Ddinbych.

Fel rhan o flaenoriaeth Tai ei Gynllun Corfforaethol, fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymrwymo i helpu i greu 260 o gartrefi fforddiadwy newydd yn y sir rhwng 2017 a 2022 a hyd yma mae 394 o gartrefi wedi eu cyflawni.

Mae’r cartrefi wedi eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat ac mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda'r Cyngor yn rheoli’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, sydd wedi galluogi adeiladu’r rhan fwyaf o gartrefi fforddiadwy yn y sir.

Gosododd y Cyngor hefyd flaenoriaethau ar gyfer tai fforddiadwy yn unol â’i Gynllun Corfforaethol, Strategaeth Tai a Digartrefedd a’r rhestr aros am dai cymdeithasol.

Rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, darparwyd 174 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol o fewn y sir.

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae tai yn flaenoriaeth i’n Cyngor ac rydym yn cydnabod bod angen pwysig i sicrhau bod tai ar gael i weddu anghenion trigolion Sir Ddinbych.

“Mae cyrraedd a mynd y tu hwnt i’r targed hwn yn gynnar yn gyflawniad anhygoel i bawb sydd yn rhan o’r broses ac o wir fudd i drigolion yma yn Sir Ddinbych. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled i gyrraedd y nod hwn.

“Byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn creu hyd yn oed mwy o gartrefi. Mae darparu mwy o dai fforddiadwy yn ein cymunedau yn rhan o’n gwaith parhaus i sicrhau y gallwn gadw mwy o bobl ifanc yn Sir Ddinbych.”

Mae tai fforddiadwy yn gymysgedd o dai cymdeithasol, rhentu canolradd a pherchnogaeth cartrefi drwy opsiynau ecwiti a rennir a rhentu i berchnogi.

Mae’r eiddo a grëwyd wedi eu gwasgaru ar draws y sir ac yn cynnwys cymysgedd o adeiladau newydd traddodiadol, dulliau cyfoes o adeiladu, ac adnewyddu anheddau presennol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi addo cefnogi datblygu 1,000 o gartrefi newydd yn Sir Ddinbych rhwng 2017 a 2022, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy a 170 ohonynt yn dai cyngor.

Mae datblygiadau pellach o gartrefi fforddiadwy sydd i’w cwblhau yn cynnwys:

  • Cyfleuster Gofal Ychwanegol Awel y Dyffryn yn Ninbych a ddatblygwyd gan Grŵp Cynefin, a fydd yn darparu 74 annedd i bobl ddiamddiffyn a phobl hŷn, y disgwylir y byddant wedi eu cwblhau erbyn yr hydref.
  • Safle datblygu tai fforddiadwy Adra yng Ngallt Melyd, yn darparu 44 o gartrefi deiliadaeth gymysg, disgwylir y bydd y safle wedi’i gwblhau yn Rhagfyr 2021 ac mae’r eiddo cyntaf rŵan yn cael eu hysbysebu ar gofrestr tai fforddiadwy Tai Teg, ar gyfer ymgeiswyr.
  • Safle datblygu Cartrefi Conwy yn y Rhyl, yn darparu 18 o fflatiau tai cymdeithasol, disgwylir y byddant wedi’u cwblhau yn Ionawr 2022
  • Safle datblygu Clwyd Alyn yn Rhuthun, yn darparu 63 cartref fforddiadwy o ddeiliadaeth gymysg, disgwylir y byddant wedi’u gwblhau ym mis Mai 2023
  • Mae Sir Ddinbych yn datblygu safleoedd ar Caradoc Road ym Mhrestatyn a Tan y ‘Sgubor yn Ninbych a fydd yn dwyn ymlaen 26 o gartrefi rhent cymdeithasol yn 2022.

I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau tai fforddiadwy, cymhwysedd ac eiddo sydd ar gael, ewch i wefan Tai Teg http://www.taiteg.org.uk/ neu ffoniwch 03456 015 605

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...