Grant i helpu trigolion Sir Ddinbych i ddatblygu eu gyrfaoedd
Mae grant i helpu pobl i ddatblygu eu gyrfaoedd wedi cael ei ail-lansio.
Mae Grant Hyfforddiant Gweithwyr y Cyngor yn cefnogi preswylwyr cyflogedig o Sir Ddinbych sydd yn ennill cyflog sydd yn is na chyflog canolrif y sir.
Gellir dyfarnu cyllid rhwng £250 a £2,000 fesul person ar gyfer hyfforddiant, datblygiad neu i gael gafael ar fentora i alluogi iddynt symud ymlaen yn eu gweithle presennol neu gyda chyflogwr newydd.
Hyd yn hyn, mae cyflog y rhai sydd wedi derbyn y grant wedi cynyddu 24% ar gyfartaledd fesul blwyddyn.
Caiff y grant ei gweinyddu gan Dîm Datblygiad Economaidd a Busnes y Cyngor ac mae’n cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol newydd y cyngor o sicrhau bod Sir Ddinbych yn lle mae pobl am fyw a gweithio ynddo a bod ganddynt y sgiliau i wneud hynny.
Meddai’r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Rydym wedi ail lansio ein grant hyfforddiant cyflogaeth ac wedi cynyddu’r cymhwyster i sicrhau ei fod ar gael i fwy o bobl.
“Mae’r grant yma’n cynnig cyfle gwych i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd yma yn y sir.
“Mae cyflog y rhai sydd wedi ymgeisio’n llwyddiannus wedi cynyddu ar gyfartaledd ychydig o dan chwarter, ac os ydych chi eisiau datblygu eich gyrfa, byddem yn eich annog i wirio eich cymhwyster.
“Rydym ni hefyd yn gofyn i gyflogwyr ystyried a oes ganddynt weithwyr allai elwa o’r cynllun yma a fyddai’n eich helpu chi i gadw ac uwchsgilio staff a thyfu eich busnes.”
I fod yn gymwys, mae’n rhaid byw yn Sir Ddinbych, ac yn ennill o dan gyflog canolrif y sir o £28,199, yn gweithio ar hyn o bryd (lleiafswm o 16 awr) a gallu dangos argaeledd swyddi addas gyda chwmni wedi’i leoli yn Sir Ddinbych.
Gellir defnyddio’r cyllid i dalu am gyrsiau addysg bellach, sgiliau a hyfforddiant proffesiynol megis AAT, NVQ, City & Guilds a hyfforddiant i yrru cerbyd masnachol.
I ymgeisio neu i wirio eich cymhwyster, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/grant-hyfforddiant-gweithwyr