Mae’r cynllun Cyfeillion Digidol yn chwilio am wirfoddolwyr
Mae menter arbennig wedi helpu cymunedau i gadw cysylltiad digidol drwy’r pandemig ac mae’n chwilio am fwy o wirfoddolwyr i gefnogi trigolion Sir Ddinbch.
Yn ystod haf 2020, drwy gydweithio, fe lansiwyd Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cymunedau Digidol Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.
Mae’r cynllun yn helpu unrhyw un sydd angen cymorth gyda thechnoleg ddigidol ac mae wedi helpu teuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid i gadw mewn cysylltiad drwy gyfnodau clo anodd y pandemig.
Mae’r Cyfeillion wedi cynnig cefnogaeth dechnegol dros y ffôn, helpu pobl i fod yn fwy annibynnol a gwella eu iechyd meddwl a’u lles.
Dywedodd Gareth Jones o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Mae cymunedau Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig, ac mae’r cynllun Cyfeillion Digidol wedi manteisio ar yr egni cadarnhaol hwnnw i gynnig cefnogaeth werthfawr iawn”.
Fy rôl i oedd recriwtio gwirfoddolwyr, sicrhau eu bod wedi eu hyfforddi a’u cyfateb gyda phobl yn y gymuned sydd angen cymorth digidol. Hoffem recriwtio mwy o wirfoddolwyr i fod yn Gyfeillion Digidol.”
Dywedodd Debbie Hughes, gwirfoddolwr sy’n un o’r Cyfeillion Digidol ym Mhrestatyn: “Yn ddiweddar, rydw i wedi helpu dynes oedd heb sgiliau TG o gwbl. Llwyddodd i gael mynediad at dabled drwy’r gwaith digidol rydw i’n ei wneud, ac yna, gyda fy nghymorth i, llwyddodd i lawr lwytho WhatsApp. Erbyn hyn, mae’r wraig yn galw ei merch drwy fideo yn Seland Newydd.
“Dwi’n meddwl ei bod wedi cael agoriad llygad i’r hyn y gall technoleg ei gynnig, a gobeithio y bydd hi’n ymuno â dosbarth TG yn ei llyfrgell leol ym mis Medi.
Ychwanegodd Debbie: “Roedd gwneud yr hyfforddiant yn gadarnhaol iawn a dysgais i amrywiaeth o bethau am y ffordd y gall technoleg ein helpu. Mae bod yn Gyfaill Digidol yn brofiad gwerthfawr gan ei bod yn wych cefnogi pobl a gweld eu hyder gyda TG yn cynyddu.”
Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Les ac Annibyniaeth: “Dyma gynllun gwirfoddol gwych sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl yn ystod y pandemig. Mae cadw cysylltiad gyda’ch ffrindiau a’ch anwyliaid yn bwysicach nag erioed, ac rydw i’n ddiolchgar iawn o weld faint mae Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych wedi helpu cymunedau yn y sir.
“Mae’n gynllun gwerth chweil i wirfoddolwyr fod yn rhan ohono, gan fod cadw mewn cysylltiad yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles meddyliol.”
Os gwyddoch am unrhyw un sydd â thabled neu ffôn clyfar sydd angen helpu i’w ddefnyddio, er enghraifft, hoffem glywed gennych, a gellir rhoi’r unigolyn mewn cysylltiad â Chyfaill Digidol.
Cysylltwch â Gareth Jones ar 01824 702441 neu e-bostiwch office@dvsc.co.uk am fwy o wybodaeth neu os hoffech fod yn Gyfaill Digidol.