llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

“Ailgysylltu”

Er bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod i bobl ailddarganfod cysylltiad â natur, mae’r broses hon o ailgysylltu nawr yn ymestyn i bobl.   Ar ôl dwy flynedd o gyfarfodydd ar-lein, mae’r cyfle i gael dal i fyny wyneb yn wyneb yn un yr ydym i gyd yn falch o’i groesawu. Yma yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych nid ydym yn eithriad. Diwrnod Dysgu ar Fryniau Prestatyn? Rhowch ein henw i lawr!

Gyda thîm mor amrywiol - o geidwaid cefn gwlad i geidwaid Natur er Budd Iechyd, i swyddogion coed a bioamrywiaeth - mae ein dyddiau prysur yn gallu ei gwneud yn anodd dal i fyny gyda chysylltiadau a phrosiectau sydd ar y gweill.   Mae’n bwysig cryfhau’r perthnasoedd gwaith hyn i ni allu gweithio’n effeithiol fel tîm i gyflawni’r gwaith pwysig ar draws AHNE a Sir Ddinbych, gyda manteision ychwanegol hybu morâl.

Sôn am bibellau, un o’r prosiectau i’w ddathlu oedd camau olaf gosod pibell ddŵr ar gyfer anifeiliaid pori ar Fryniau Prestatyn.   Safle heriol o’r dechrau, yn hygyrch ar droed yn unig, mae hefyd wedi’i gydnabod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, am ei laswelltir calchaidd cyfoethog a phocedi o rostir calchfaen. Mae’r rhain o dan fygythiad oherwydd rhywogaethau ymledol ac amlwg ar bocedi serth o’r tir. Roedd agosau at gwblhau’r cam cyntaf o’r gwaith hwn i oresgyn y problemau gyda phori wirioneddol yn rhywbeth i fod yn falch ohono.  

Roedd Bryniau Prestatyn yn un o’r safleoedd wedi eu cynnwys yng Nghynllun Rheoli Cynaliadwy a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’r UE - prosiect Datrysiadau Tirlun ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru, oedd yn anelu i ddod â 40 safle allweddol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i drefn pori rheoli cynaliadwy. Mae’r prosiect yn buddsoddi mewn isadeiledd sydd ei angen i wneud y safleoedd yn addas ar gyfer pori, gan gynnwys ffensys, darparu cyflenwad dŵr a rheoli cynefinoedd. Fel rhan o hyn, roedd y bryniau wedi eu rhannu yn 3 rhan pori fel y gellir cyflwyno defaid i’r safle i’n helpu i reoli’r glaswelltir calchfaen bendigedig sy’n bodoli yno. Roedd gosod y bibell ddŵr i ddarparu dŵr i’r defaid yn rhan olaf o’r cam cyntaf hwn.  

Roedd ein taith yn mynd â ni ar daith o’r bryn gyda sgyrsiau gan y bobl allweddol oedd wedi gweithio ar y prosiect hwn.   Efallai bod y cydbwysedd rhwng y gwaith cynefin, y paratoi ar gyfer cyflwyno’r pori a’r mynediad hamdden wedi bod yn anodd i’w gyflawni ond bydd yn helpu i wireddu potensial llawn cynefinoedd Bryniau Prestatyn.   Ar ein siwrnai yn ôl, buom ar wibdaith o amgylch prosiectau eraill sydd ar y gweill yn yr ardal, gan gynnwys gwaith llwybr troed, gwaith pyllau a phrosiect cymunedol i adfer lawnt eu pentref, sydd nid yn unig yn edrych yn wych ond bydd o fudd mawr i beillwyr.  

Ffordd berffaith i dreulio diwrnod yn dal i fyny gyda chydweithwyr, dathlu eu cyflawniadau a chael ysbrydoliaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol.   Ni allaf aros tan ein diwrnod dysgu staff nesaf!

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...