Y Cyngor yn derbyn gwobr Llythrennedd Carbon
Mae'r Cyngor wedi derbyn Gwobr Efydd y Sefydliad Llythrennog o ran Carbon yn ffurfiol.
Cyflwynwyd y wobr i’r Cyngor mewn digwyddiad a gynhaliwyd ddydd Iau, 14 Gorffennaf yn Oriel Gelf Whitworth, Manceinion, gan y Prosiect Llythrennedd Carbon.
Datganodd y Cyngor Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac ers hynny mae'n ymroddedig i fod yn Gyngor Carbon Net Sero ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030, yn ogystal â lleihau allyriadau carbon o’r nwyddau a’r gwasanaethau a brynir.
Bu i’r Cyngor hefyd newid ei Gyfansoddiad ym mis Hydref 2020 a bellach mae’n rhaid i bob penderfyniad a wneir ‘roi ystyriaeth i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd ac Ecolegol’.
Aethpwyd â dros 200 o staff a chynghorwyr ar gwrs undydd dwys i wella llythrennedd carbon ar draws y sefydliad a gall pob aelod o staff bellach gael mynediad at becyn E-ddysgu ar-lein newydd sy’n eu cyflwyno i faterion Newid Hinsawdd a sut y gallant wneud gwahaniaeth yn eu swyddi a’u cartrefi bob dydd.
Mae’r Cyngor wedi dod yn un o’r 52 o sefydliadau llythrennog o ran carbon yn y DU ac Iwerddon.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon yn ffurfiol yn dilyn ein hymgyrch barhaus i fod yn garbon niwtral. Mae diogelu a gwella ein hamgylchedd yn brif flaenoriaeth i ni ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i barhau i leihau ein hôl troed carbon a chynyddu bioamrywiaeth ar draws Sir Ddinbych.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl staff sydd wedi ein cefnogi ni i gyflawni’r achrediad hwn gan y bydd yn parhau i’n helpu ni i sicrhau bod ein gwasanaethau i gyd yn deall eu hôl troed carbon a pha gyfraniadau y bydd angen iddynt eu gwneud i’w leihau.”