llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Cynllun gwirfoddoli digidol yn apelio am siaradwyr Cymraeg

Mae cynllun cyfaill i helpu pobl sydd angen help â’u dyfeisiau digidol yn chwilio am siaradwyr Cymraeg.

Daeth Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Cymunedau Digidol Cymru a'r Cyngor ynghyd yn gynharach eleni i lansio cynllun Cyfeillion Digidol Sir Ddinbych i helpu’r rhai sydd angen cymorth â’u dyfeisiau.

Yn awr, gofynnir i siaradwyr Cymraeg ddod ymlaen i fod yn ‘gyfeillion digidol’ i roi cefnogaeth dros y ffôn.

Mae’r pandemig wedi amlygu fwy nag erioed mor hanfodol bwysig yw cynhwysiant digidol, a heb dechnoleg byddai’n anodd iawn cadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau ac anwyliaid.

Mae pobl nad ydynt yn hyderus i ddefnyddio cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar, a nod y cynllun yw cyrraedd y rhai sy’n teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl a’u helpu i ddysgu sgiliau digidol. 

Dywedodd Gareth Jones o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych: “Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru ac yn arbennig yn Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig, ac mae ein cynllun cyfeillion digidol wedi cysylltu â’r egni positif hwn yn ein cymunedau i gefnogi’r naill a’r llall, ond hoffem annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ymuno.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Mae’r pandemig hwn wedi dangos yn fwy nag erioed bod ar rai angen cymorth digidol.

“Mae cefnogi’r cynllun hwn yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae’n cefnogi ein blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol i greu cymunedau cryf sydd wedi eu cysylltu’n dda er mwyn i’n preswylwyr gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau ar-lein. 

“Rydym yn annog siaradwyr Cymraeg i ddod ymlaen a gwirfoddoli fel rhan o’r cynllun hwn a helpu’r rhai sydd angen ychydig mwy o gefnogaeth i ddatblygu sgiliau digidol.”

Dywedodd Deian ad Rhisiart o Gymunedau Digidol Cymru: “Rydym wedi bod yn gweithio ym maes cynhwysiant digidol am dros ddegawd ledled Cymru ac mae hwn yn ymateb amserol i fynd i’r afael â’r bwlch mewn sgiliau digidol. Mae ar bobl angen gallu aros mewn cysylltiad, i allu defnyddio gwasanaethau digidol, cynnal eu iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo ac mae technoleg yn rhan annatod o’r datrysiad. Gan fod Dyffryn Clwyd yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, rydym yn apelio am gyfeillion digidol sy’n siarad Cymraeg i helpu yn eu bro.”

Dywedodd y gwirfoddolwr Keith Jones: “Mae perygl y bydd rhai pobl mewn cymdeithas yn cael eu gadael ar ôl. Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig. Hoffwn ddefnyddio fy sgiliau i helpu.”

Os oes gennych berthynas neu ffrind, neu os gwyddoch am rywun sydd angen help digidol ac angen gwybod sut i’w ddefnyddio, hoffai’r cynllun glywed gennych. Gellir eu paru â Chyfaill Digidol, neu os ydych yn siarad Cymraeg ac os hoffech ddod yn gyfaill digidol a helpu yn eich cymuned, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â Rhys Hughes ar 01824 702441 am fwy o wybodaeth neu e-bostiwch office@dvsc.co.uk.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...