Taliad tuag at gostau tanwydd gaeaf
Y mae bellach yn bosibl gwneud cais ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf.
Mae'r Cyngor yn gweinyddu Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru, sydd yn rhoi’r cynnig i aelwydydd cymwys wneud cais am un taliad o £100 tuag at gostau tanwydd gaeaf.
Gellir gwneud cais ar gyfer y cynllun o 13 Rhagfyr ymlaen.
Y mae ar gael i aelwydydd lle mae un aelod yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith, ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.
Bydd y taliad hwn ar gael i bob aelwyd gymwys, ni waeth ba ffordd y telir am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau wedi eu gwneud ar fesurydd rhagdaliad, trwy ddebyd uniongyrchol, neu drwy dalu bil bob chwarter.
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol y Cyngor: “Byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei weithredu mor ddidrafferth â phosibl i breswylwyr Sir Ddinbych.
“’Rydym yn annog pawb sy’n gymwys i wneud cais ar gyfer y cynllun hwn, a byddwn yn prosesu taliadau cyn gynted â phosibl i’n preswylwyr.”
Rhaid i bob cais ddod i law erbyn 18 Chwefror 2022.
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais ar gyfer y cynllun, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau