llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Grŵp Cynefin yn adeiladu cymuned arbennig yng nghanol Dinbych

Gyda chynllun tai gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Dinbych wedi ei gwblhau, mae staff y prosiect gwerth £12 miliwn yn edrych ymlaen at groesawu trigolion newydd yn y flwyddyn newydd.

Awel y Dyffryn yw prosiect mwyaf uchelgeisiol Grŵp Cynefin hyd yma, ac yn cynnwys 42 o fflatiau dwy ystafell wely a 24 fflat un ystafell wely ar gyfer pobl hŷn sydd eisiau byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ond gyda gofal a chefnogaeth ar gael pe bai ei angen arnynt.

Dydd Iau (Ionawr 20, 2022) bydd cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun ar eu cyfer nhw, aelod o’u teulu neu ffrind ddod i weld y cyfleusterau. Os oes diddordeb, rhaid archebu slot amser trwy gysylltu â Grwp Cynefin ar post@grwpcynefin.org neu 0300 111 2122.

Mae Awel y Dyffryn yn ganlyniad cydweithredu rhwng Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Dinbych, gyda'r contractwr lleol, R L Davies o Fae Colwyn, yn gyfrifol am yr adeiladu ar hen safle ysgol Middle Lane yng nghanol tref Dinbych.

Mae'r adeilad wedi'i ddylunio o amgylch gerddi wedi'u tirlunio, gydag ardaloedd braf ar gyfer cymdeithasu, salon trin gwallt, ystafell olchi dillad, bwyty a fflatiau modern cyfforddus y gall trigolion eu haddurno a'u dodrefnu at eu chwaeth eu hunain.

Dywedodd Noela Jones, Pennaeth Cymdogaethau Grŵp Cynefin: "Rydyn ni'n falch iawn o'n cynlluniau tai gofal ychwanegol. Nid yw cynlluniau tai gofal ychwanegol yr un peth â chartrefi gofal. Yn lle, yr hyn rydyn ni'n ei gynnig yw fflatiau i un, i gwpl neu ddau o bobl greu cartref iddyn nhw eu hunain â'u drws ffrynt eu hunain ac annibyniaeth llwyr.

“Gall y trigolion fynd a dod fel y mynnant a rhyddid i ffrindiau a theulu ymweld yn ôl eu dymuniad. Mae yna hefyd ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol os ydyn nhw am gymryd rhan, ac mae cinio dyddiol yn y bwyty yn gyfle i ddal i fyny, cymdeithasu a mwynhau pryd maethlon.”

Gyda'r rheolwr newydd Manon Jones yn ei lle, mae disgwyl i Awel y Dyffryn sefydlu ei hun fel canolbwynt bywiog yng nghymuned Dinbych, gyda gweithgareddau rheolaidd rhwng y preswylwyr a'r gymuned, ysgolion a chlybiau lleol.

Mae Manon yn awyddus i glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn rhentu fflat yno iddyn nhw eu hunain, aelodau o'r teulu neu ffrindiau.

“Y peth pwysicaf os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n elwa o fyw yn rhywle fel Awel y Dyffryn, yw gwneud cais,” meddai. “Gallwn drafod unrhyw anghenion gofal, helpu gyda threfnu gwasanaethau a hefyd helpu i ddod o hyd i fudd-daliadau sydd ar gael os oes angen.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld cymuned glos, fywiog yn ffynnu.”

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth y Cyngor Sir:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect pwysig hwn i’n trigolion gyda Grŵp Cynefin.

“Bydd Awel y Dyffryn yn darparu ystod o gyfleusterau a chefnogaeth a fydd yn helpu preswylwyr hŷn Sir Ddinbych i gynnal a gwella eu hannibyniaeth, tra hefyd yn cefnogi ein cymunedau i fod yn fwy gwydn.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu'r tenantiaid cyntaf i'w cartrefi newydd yn y flwyddyn newydd.”

Dylai'r rhai sydd â diddordeb gysylltu â Grwp Cynefin ar post@grwpcynefin.org neu 0300 111 2122. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ei gwefan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...