Mae cerbydau mwy gwyrdd wedi cyrraedd Planhigfa Goed y Cyngor er mwyn helpu i wella’r broses o gynhyrchu planhigion a choed.

Mae planhigfa goed tarddiad lleol y Cyngor yn Fferm Green Gates, Llanelwy, a ariannir gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Partneriaethau Natur lleol Cymru ENRaW a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, wedi cynhyrchu 13,000 o blanhigion blodau gwyllt ac 11,500 o goed y tymor hwn.

Bydd y planhigion a gynhyrchir yn y blanhigfa’n cael eu plannu yn nolydd blodau gwyllt presennol y sir i roi hwb i’r ystod o rywogaethau ar y safleoedd, ychwanegu amrywiaeth a lliw i wella edrychiad pob safle fel bod y cymunedau lleol yn eu mwynhau, a chynnal a gwella bioamrywiaeth.

Mae’r dolydd blodau gwyllt a’r coetiroedd lle bydd rhai o’r coed a dyfwyd yn mynd yn cynnig buddion i bawb, nid byd natur yn unig. Bydd buddion cymunedol eraill yn cynnwys gwella ansawdd aer, oeri gwres trefol, lles corfforol a meddyliol a meysydd amrywiol o ddiddordeb o ran addysg a chwarae.

Er mwyn helpu i wella’r broses gynhyrchu ar gyfer y tymor nesaf o amgylch y blanhigfa goed a chynnal y dolydd blodau gwyllt amgylchynol, mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi croesawu cyfarpar newydd i leihau allyriadau carbon ar y safle.

Bydd y llwythwr Avant trydanol yn helpu gyda gwaith ymarferol yn y blanhigfa, gan gynnwys symud stoc o amgylch y safle, cynnal proses gynaliadwy o greu compost ar gyfer y blanhigfa a chynnal ardaloedd a dolydd blodau gwyllt gerllaw.

Mae’r peiriant trydanol nad yw’n allyrru carbon o bibell mwg, yn gallu codi hyd at 900kg gyda ffyrch llwytho a bwced llwytho i helpu i symud eitemau o amgylch y safle a pheiriant torri gwair ar gyfer gwaith cynnal a chadw.

Yn ogystal â hynny, bydd fan Fiat e-Doblo trydanol gydag ystod o 175 milltir yn helpu gyda’r gwaith o gario coed a phlanhigion o’r blanhigfa i safleoedd eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae’r tîm yn y blanhigfa a’r gwirfoddolwyr sy’n dod i helpu’n gwneud gwaith gwych yn tyfu’r planhigion a’r coed a fydd yn mynd allan i safleoedd i wella eu hedrychiad a’u teimlad ar gyfer natur a chymunedau lleol.

“Bydd yr ychwanegiadau allyriadau isel hyn yn helpu i ddatblygu’r broses gynhyrchu ar y safle ac yn helpu i leihau allyriadau carbon ar draws y Cyngor.”