Mae gwaith wedi dechrau ar wneud gwelliannau i nifer o ddolydd blodau gwyllt yn Sir Ddinbych.
Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi dechrau rhaglen o welliannau a phlannu plygiau a gwaith ar draws deg o ddolydd.
Mae’r dolydd yn amrywio o safle i safle ond fel arfer mae ganddyn nhw amrywiaeth o laswellt a blodau gwyllt brodorol. Mae’r rhan fwyaf o’n blodau gwyllt yn rhai brodorol lluosflwydd sy’n golygu byddant yn dychwelyd o flwyddyn i flwyddyn, ac maen nhw’n cefnogi llawer o fywyd gwyllt.
Dechreuodd y gwaith yn Arglawdd Gallt Melyd, Prestatyn, er mwyn cyflwyno mwy o flodau gwyllt ar y safle.
Bydd plannu mwy o blygiau blodau mewn nifer o safleoedd, a gaiff eu tyfu ym mhlanhigfa goed y Cyngor, yn helpu i greu dolydd mwy lliwgar ac amrywiol a chefnogi mwy ar fioamrywiaeth ein natur a’n cymunedau lleol.
Mae adfer a chynnal y dolydd blodau gwyllt hyn yn gam pwysig tuag at helpu i wrthdroi’r dirywiad a chynyddu cyfoeth rhywogaethau lleol ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fanteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio ei feysydd glaswelltir at y diben hwn, lle bo’n briodol.
Mae blodau gwyllt yn nolydd y sir yn darparu bwyd i’r gwenyn a pheillwyr eraill drwy gydol y flwyddyn, ac mae hyn yn cefnogi ein cadwyn fwyd.
Heb y cymorth hwn i bryfed, ni fyddai cymaint o beillwyr natur, a fyddai’n effeithio ar ein cadwyn fwyd gan fod y peillwyr hyn yn cefnogi tyfiant y mwyafrif o’n ffrwythau a’n llysiau.
Gall pridd dolydd blodau gwyllt hefyd atafaelu cymaint o garbon â choetiroedd, gan leihau nwyon tŷ gwydr er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Fe fydd cyfoethogi a gwella’r dolydd gyda mwy o blanhigion, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, yn helpu i greu coridorau sydd wedi’u cysylltu’n well i gefnogi natur i fudo a pheillio safleoedd eraill, gan fynd i’r afael â’r argyfwng natur ac annog mwy o natur yn ôl i’n trefi i breswylwyr eu mwynhau.
“Mae’r gwelliannau i’r dolydd yn cynnig buddion i bawb, nid byd natur yn unig. Bydd buddion cymunedol eraill yn cynnwys gwella ansawdd aer, oeri gwres trefol, lles corfforol a meddyliol a meysydd amrywiol o ddiddordeb o ran addysg a chwarae.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr a’n staff am helpu i gyflwyno’r planhigion hyn i’r safleoedd dethol, sydd wedi’u tyfu o hadau a dynnwyd o’r blodau presennol ar ein dolydd.
Mae gwelliannau a phlannu plygiau yn digwydd yn:
- Lôn Las, Corwen
- Cylchfan ATS, Dinbych
- Caeau Parc Alafowlia, Dinbych
- Maes Lliwen, Nantglyn
- Parc Bastion Road, Prestatyn
- Arglawdd Gallt Melyd, Prestatyn
- Ffordd Arfordir y Rhyl
- Vincent Close, y Rhyl
- Fern Way, y Rhyl
- Parc Llys Brenig, y Rhyl
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu â’r gwaith plannu plygiau blodau gwyllt mewn safle cymunedol, mae nifer o gyfleoedd ar gael i chi gymryd rhan yn y dyfodol. E-bostiwch bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk am ragor o fanylion.