Bydd cam newydd o waith mewn ysgol yn parhau i leihau ôl troed carbon y safle.

Mae Tîm Ynni y Cyngor wedi cwblhau cam 2 yn Ysgol Tir Morfa i leihau allyriadau carbon y safle.

Mae’r Cyngor yn gweithio i leihau ôl troed carbon ei adeiladau, sy’n gyfrifol am dros 60 y cant o allyriadau uniongyrchol.

Yn gynnar eleni goruchwyliodd y Tîm Ynni y gwaith o osod dau bwmp gwres o’r awyr yn yr ysgol gan gwmni gwneud boeleri o’r DU, Ideal, sy’n defnyddio tymheredd yr aer a thrydan i greu gwres yn lle boeler nwy.

Mae’r pympiau gwres yn helpu i leihau allyriadau carbon a chostau o gymharu â boeler traddodiadol. Maen nhw’n defnyddio tymheredd yr aer i droi 1 uned o drydan yn dros 3 uned o wres.

Hefyd, gosodwyd dau banel ffotofoltäig a batri i helpu i gynhyrchu’r trydan ar gyfer y pympiau gwres ac i storio unrhyw drydan ‘ychwanegol’ sy’n cael ei gynhyrchu gan y paneli, a fyddai’n cael ei fewnforio fel arall, gan leihau’r biliau ynni a’r allyriadau carbon.

Rwan, mae’r tîm wedi gosod goleuadau LED yn yr ysgol, sydd angen llai o ynni i weithio.

Gosodwyd y goleuadau LED dros wyliau’r haf a bydd yn arbed 6 thunnell fetrig o allyriadau carbon y flwyddyn yn ogystal â lleihau’r costau trydan.

Dywedodd Robert Jones, y Prif Reolwr Ynni: “Mae wedi bod yn wych dod yn ôl i Ysgol Tir Morfa, oedd mor hawdd gweithio â nhw yn ystod gwyliau’r Pasg pan ddaethom i osod y pympiau gwres a’r paneli solar. Drwy ychwanegu’r system goleuadau LED, mae hyn yn mynd i helpu’r ysgol fwy byth i leihau eu hallyriadau carbon a’u defnydd o ynni.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae hyn yn waith gwych gan ein Tîm Ynni i helpu’r ysgol i barhau i leihau eu hallyriadau carbon a chostau ynni drwy osod y system goleuadau LED newydd ochr yn ochr â’r pympiau gwres a phaneli solar a osodwyd yn flaenorol. Mae’r Cyngor mor ddiolchgar fod yr ysgol wedi bod mor gefnogol o’r dechnoleg newydd hon.”