Mae prosiect bioamrywiaeth i gefnogi blodau gwyllt brodorol yn Sir Ddinbych wedi rhagori ar ganlyniadau’r llynedd.

Cynhyrchodd planhigfa goed tarddiad lleol Cyngor Sir Ddinbych yn Fferm Green Gates, Llanelwy, bron i 8,000 o blanhigion yn ystod ei thymor tyfu cyntaf y llynedd.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Yn 2023, mae nifer y planhigion a dyfwyd wedi rhagori ar y llynedd drwy gyrraedd 13,000 o flodau gwyllt.

Yn eu plith mae llygad llo mawr, y bengaled, clafrllys, y feddyges las, milddail, moron gwyllt, blodyn neidr, gludlys cyffredin, blodyn menyn, meillionen hopysaidd a’r briwydd felen.

Mae llawer o’r blodau gwyllt hyn yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt. Er enghraifft, gall y feillionen hopysaidd ddarparu bwyd i 160 o rywogaethau o bryfaid, gan annog llŷg a chornchwiglod i ymweld â’r planhigyn, gan wella gwytnwch natur mewn cymunedau lleol.

Bydd y planhigion sy’n cael eu tyfu yn y blanhigfa yn mynd i ddolydd blodau gwyllt presennol yn y sir. Bydd hyn yn helpu i roi hwb i’r ystod o rywogaethau yn y safleoedd, ychwanegu amrywiaeth a lliw i wella edrychiad pob safle fel bod y cymunedau lleol yn eu mwynhau, a chynnal a gwella bioamrywiaeth.

Mae cael mwy o flodau gwyllt yn y dolydd hefyd yn helpu peillwyr sy’n bwysig i’r gadwyn fwyd dynol.

Mae blodau gwyllt yn y dolydd yn darparu bwyd i’r gwenyn a pheillwyr eraill drwy gydol y flwyddyn. Ar ddiwrnod o haf, gall acer o ddôl â thua tair miliwn o flodau arni gynhyrchu bron i 1kg o siwgr neithdar i gynnal hyd at 100,000 o wenyn.

Heb y cymorth hwn i bryfed, ni fyddai cymaint o beillwyr natur, fyddai’n effeithio ar ein cadwyn fwyd ac mae’n bosibl y byddai’n rhaid i fwyafrif y ffrwythau a llysiau a gynhyrchir gael eu peillio’n artiffisial, fyddai’n ddrud ac yn cymryd amser.

Mae’r blanhigfa hefyd wedi tyfu mwy o goed, o 1,000 y llynedd i 11,500 ar gyfer 2023, yn cynnwys y dderwen goesynnog, derwen ddigoes, castanwydden bêr, bedwen arian, gwernen, llwyfen llydanddail a’r helygen ddeilgron.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae llawer o waith caled wedi mynd i gynhyrchu mwy o blanhigion a choed ar gyfer 2023, o gasglu’r hadau y llynedd i’r gofal a’r sylw i helpu’r rhywogaethau dyfu.

“Mae’r gwirfoddolwyr rydym wedi eu cael yn y blanhigfa wedi’n helpu i symud y prosiect yn ei flaen ac rwyf eisiau diolch iddyn nhw a’r tîm bioamrywiaeth am ddarparu cymaint o blanhigion a choed fydd yn helpu i’n gwaith barhau i gefnogi a gwella natur ar draws y sir.”

“Mae’r dolydd fydd yn gartref i’r planhigion hyn i bawb, maent yn cefnogi’r gwaith o greu coridorau cysylltiedig i natur ffynnu ar draws ein hardaloedd trefol. Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth wych gan ein hysgolion, sy’n awyddus i ddilyn a dysgu am sut mae’n helpu nid dim ond natur, ond ein cymunedau hefyd. Bydd y blodau gwyllt a dyfir yn helpu i ychwanegu amrywiaeth a lliw yn ein safleoedd i’r gymuned ei fwynhau, ynghyd â’r peillwyr sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

“O gofio’r amser mae’n gymryd i’w sefydlu, bydd ein dolydd er lles preswylwyr a’r bywyd gwyllt i’w mwynhau rŵan ac, yn bwysicach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol sef disgyblion ysgolion Sir Ddinbych.”