Gorffennaf 2025

01/07/2025

Crwydro un o berlau Rhuddlan

Mae’r dyddiau cynhesach yn peri i natur ledled y sir flodeuo, ac mae digonedd o leoedd gwych i fynd gyda’r teulu i gael gweld hyn drosoch eich hun.

Yn Rhuddlan mae yna ardal sy’n llawn bywyd a natur ar gyfer pobl o bob oedran, gyda golygfeydd godidog o Gastell Rhuddlan yn ogystal.

Mae Llais y Sir yn mynd â chi o gwmpas Gwarchodfa Natur Rhuddlan, darn o dir bywiog yn llawn bywyd gwyllt a rhyfeddol, diolch i bartneriaeth gymunedol wych.

Mae staff Cefn Gwlad wedi bod yn gweithio’n agos ers 2011 gyda Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan i ddiogelu a datblygu’r tir sydd wrth ymyl y brif ffordd o Ruddlan i Lanelwy.

Wrth gyrraedd y maes parcio bach gyferbyn â’r fynedfa i Aldi wrth y goleuadau traffig, gellwch gerdded i’r warchodfa natur mewn dim o dro. Mae prif lwybr, a rennir gyda beicwyr, yn mynd â chi drwy galon y warchodfa natur, ond mae yna lwybrau llai i’w mwynhau hefyd.

Mae’r gangen gyntaf ar ochr dde’r llwybr yn eich arwain i lawr ychydig risiau drwy ardal goediog at ddyfroedd y warchodfa, lle, os ydych chi’n lwcus, gellwch wylio elyrch, hwyaid neu grehyrod, hyd yn oed, yn mwynhau’r ardal o blatfform pren yn edrych dros y dŵr.

Wrth grwydro’n ôl i lawr y prif lwybr gellwch ganfod y mentrau mae’r bartneriaeth wedi eu datblygu dros y blynyddoedd ar gyfer cymuned Rhuddlan ac ymwelwyr.

Mae llwybrau bach yn rhoi’r cyfle i chi gael cerdded drwy ddwy ddôl blodau gwylltion, sy’n llawn blodau amrywiol ac yn ferw o liwiau, a’r cyfan yn helpu i gynnal bywyd gwyllt lleol y warchodfa.

Mae tri phwll bywyd gwyllt i gyd ar y safle sy’n llawn bywyd, a mwy na 300 metr o wrychoedd yn darparu cynefin pwysig i lawer o anifeiliaid.

Wrth gerdded drwy’r warchodfa mae’n bosibl y byddwch hefyd yn sylwi ar fwy na 6,000 o goed yn siglo yn yr awel – y cyfan wedi eu plannu gan y bartneriaeth – ynghyd â pherllan o rywogaethau treftadaeth.

Dewiswch ddiwrnod heulog i ymweld ac mae gennych ddwy ardal bicnic yn y warchodfa natur i ymlacio a chael cip ar y bywyd gwyllt yn mwynhau’r ardal yn ogystal.

Os dewiswch yr amser cywir yn ystod yr haf i fynd yno, mae yna hefyd ardal berffaith ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb ym mywydau pryfed. Mae gan y warchodfa ei phwll trochi ei hun, lle gellwch gael cip ar fywyd prysur gwas y neidr.

Un nodwedd unigryw i’r warchodfa natur yw’r Ardd Synhwyraidd; bu’r Grŵp Dementia lleol a grŵp y warchodfa natur yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad wrth ddatblygu’r ardal hon. Gyda’i gilydd maent wedi creu llecyn sy’n addas ar gyfer pobl â dementia, gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwylltion a nodweddion tirwedd hanesyddol megis waliau sychion a gwrychoedd wedi eu plygu, ynghyd â seddi coed derw Cymreig traddodiadol i bobl gael eistedd a mwynhau’r ardal.

Mae’r warchodfa natur wedi ennill nifer o wobrau Cymru yn ei Blodau, ac mae’n hollol hygyrch i bawb.

Mae’r ffordd y mae bywyd gwyllt lleol wedi mabwysiadu’r warchodfa hon – sydd wedi ei chynllunio’n arbennig – wedi mynd y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau, ac mae hynny’n cynnwys rhywogaethau eiconig megis dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr, sy’n digwydd bod yn rhai o’r mamaliaid sy’n prinhau gyflymaf yn y DU.

Comments