06/06/2025
I ble mae gwastraff bwyd yn mynd?
Beth sydd gan ychydig dros 600 o eliffantod Affricanaidd gwrywaidd i’w wneud gydag ailgylchu bwyd yn y sir?
Wel, dyna gyfanswm pwysau’r bwyd a anfonwyd i gael ei ailgylchu diolch i ymdrechion preswylwyr rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.
I roi syniad arall i chi, mae’r swm a gafodd ei fagio a’i ailgylchu gan gymunedau Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod hwn gyfystyr â saith awyren Airbus A380 llawn yn sefyll ochr yn ochr â thair awyren A320 oedd wedi cyrraedd eu capasiti pwysau.

Fe ailgylchodd preswylwyr 4,204 tunnell ar gyfer y cyfnod, sef cynnydd o 588 tunnell o wastraff bwyd o 2024 i 2025.
Mae’r gwastraff yn cael ei gasglu o dros 47,000 eiddo ac yn cael ei gynnwys mewn tua 73,000 o gasgliadau yr wythnos ar draws pob ffrwd gwastraff yn y Sir.
Mae’r gwastraff a gasglwyd yn y bagiau bioddiraddadwy arbennig sy’n cael eu darparu gennym ni yn cynnwys eitemau o geginau a byrddau bwyd megis aelwydydd
- Bagiau te wedi’u defnyddio
- Gwaddodion coffi
- Plisgyn wyau
- Ffrwythau
- Croen llysiau
- Cig a physgod amrwd ac wedi’u coginio, gan gynnwys esgyrn
- Crafion platiau neu fwyd dros ben nad oes modd ei gadw’n ddiogel er mwyn ei fwyta yn nes ymlaen
- Bwyd nad yw’n ddiogel i’w fwyta mwyach
Ac yn sgil ymdrechion pawb, mae’r eitemau yma, drwy beidio â llenwi ein safleoedd tirlenwi gwerthfawr, yn cefnogi ein cymunedau.
Wedi’i gasglu o’n Gorsaf Wastraff yn Ninbych, mae’r holl fagiau ailgylchu bwyd yn cael eu cludo i gyfleuster sy’n cael ei redeg gan Biogen ger Rhuallt.

Mae’r bwyd yn mynd drwy broses o’r enw Treulio Anaerobig sydd yn helpu i leihau bio-nwy a bio-wrtaith. Mae hyn yn digwydd mewn tanc di-ocsigen sydd wedi’i selio o’r enw treuliwr anaerobig.
Caiff bio-nwy yn y ffatri ei ddal a’i ddefnyddio i bweru peiriannau nwy effeithlon gan gynhyrchu trydan adnewyddadwy i gefnogi’r grid. Mae hyn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd gan fod nwy sy’n cael ei ryddhau gan y bwyd yn cael ei ddal mewn amgylchedd sydd wedi’i reoli yn hytrach na’i adael i gronni dros safleoedd tirlenwi agored.
Mae’r bio-wrtaith sy’n weddill yn cael ei roi yn ôl yn y tir i dyfu mwy o gnydau i gynhyrchu mwy o fwyd ar gyfer byrddau bwyd teuluoedd.
Gan ddiolch i breswylwyr am eu hymdrechion ailgylchu bwyd, meddai Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, Priffyrdd a Chludiant: “Mae ein preswylwyr wedi bod yn wych erioed yn ailgylchu bwyd, ond dyma ymdrech aruthrol ganddyn nhw sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth cadarnhaol i’n hamgylchedd. Gall pawb sydd wedi crafu eu platiau mewn i’r cadis fod yn falch o’u hunain am helpu i roi rhywbeth cadarnhaol yn ôl i’n hamgylchedd drwy gefnogi’r broses ailgylchu y mae’n holl wastraff bwyd yn mynd drwyddo.”
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Sir Ddinbych, ewch i https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/biniau-ailgylchu.aspx