01/07/2025
Rhyfeddodau naturiolwr yn helpu i warchod natur y sir
Mae gwaith ar y gweill ar draws y sir i wrthdroi effaith newid hinsawdd a gwaith dyn ar ein natur a’n hamgylchedd. Ac mae syrffiwr brwd a anwyd yn Ne Affrica a chyfaill angerddol y byd naturiol yn arwain y gad i roi gobaith i fywyd gwyllt Sir Ddinbych unwaith eto.
Mae Llais y Sir yn eistedd i lawr gyda’r Uwch Swyddog Bioamrywiaeth, Liam Blazey, i ganfod beth sy’n tanio’r angerdd i durio’n ddwfn i gefnogi’r natur sydd gennym ar draws y sir.
Wedi’i eni a’i fagu ar arfordir dwyreiniol De Affrica, mae Liam yn cyfaddef bod ei dad, a oedd yn naturiaethwr angerddol ei hun, wedi dylanwadu ar ei brofiadau cynnar gyda’r byd naturiol.
Eglurodd: “Cafodd ef argraff fawr arnaf, pan oeddwn yn ifanc a’r holl gerdded a gwersylla yr oeddem yn arfer ei wneud yn yr awyr agored. Yna, yn fy arddegau cynnar, dechreuais syrffio a threuliais lawer o amser allan ar y dŵr yn syrffio, roeddwn yn ffodus iawn i fyw yn un o’r ardaloedd mwyaf bioamrywiol ar y blaned, wedi’i amgylchynu gan fywyd gwyllt anhygoel.”
Fe wnaeth digwyddiad unigryw, lle y bu iddo gyfarfod anifail llai, wirioneddol helpu Liam i ddangos pa mor amrywiol a rhyfeddol y gall y byd naturiol fod.
“Dysgais i werthfawrogi anifeiliaid mewn ffordd wahanol ar ôl cyfarfod rhywfaint o grancod ymfudol. Roeddem yn byw ar foryd a oedd yn ffinio â’r cefnfor ac weithiau roeddem yn gweld y crancod yn brwydro yn erbyn ei gilydd am eu cregyn.
“Ar ôl ychydig roeddech yn sylwi nad y rhai mawr oedd bob amser yn ennill, roedd y rhai llai yn fwy ymosodol. Unwaith iddynt gael cragen eu gwrthwynebwr byddant yn dringo i mewn iddi i weld a oedd hi’n ffitio. Os nad oedd yn ffitio, byddant yn ei llenwi gyda thywod i’w gwneud yn llai ar y tu mewn. Os byddai’n rhy fach, byddant yn tywallt rhywfaint o’r tywod allan ohoni. Roedd hyn i gyd yn cael ei wneud drwy gylchdroi’r gragen unai’n glocwedd neu’r wrthglocwedd. Roeddent yn fanwl gywir iawn yn eu gweithredoedd, roedd yn rhyfeddol!
Ychwanegodd: “Wrth eu gwylio, sylweddolais fod lefel llawer dyfnach i’r hyn yr ydym yn ei weld. Fe wnaeth i mi sylweddoli o oedran ifanc bod gan bopeth sy’n byw ar y blaned hon fywyd bach diddorol ei hun a’r mwyaf yr ydych yn edrych arno, y mwyaf rhyfeddol y mae’n mynd. Mae hyn yn wir am bob rhywogaeth.
Bu i ryfeddodau’r byd naturiol aros gyda Liam o’i arddegau cynnar, trwy swyddi yn cynnwys gweithio fel gof arian a gwerthu eitemau electronig tan iddo gael ei dynnu tuag at hyfforddi mewn Bioamrywiaeth yn ystod ei 30au cynnar, ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.
Yn dilyn hyn, galwodd llanw’r DU am y syrffiwr brwd a oedd hefyd yn fedrus iawn mewn siapio byrddau.
Eglurodd Liam: “Yn ôl adref, roeddwn i’n arfer ail-siapio hen fyrddau syrffio wedi torri ac roeddwn yn bwriadu mynd i Japan i geisio sefydlu busnes yn creu byrddau syrffio, ond nid oeddwn yn gallu siarad Japaneg felly penderfynais nad oedd fy Saesneg yn rhy ddrwg… Penderfynais symud i Dorset ac roeddwn wrth fy modd â phobl y sir, dyna lle wnes i gyfarfod fy ngwraig.
Gan raddio fel Meddyg, roedd lleoliad cyntaf gwraig Liam yng Ngogledd Cymru a bu i’r cwpwl groesawu byd naturiol Eryri cyn i Liam symud i gefnogi natur ar draws Sir Ddinbych.
Yn siarad am symud i’w swydd bresennol, dywedodd Liam: “Hon yw’r swydd orau i mi ei chael erioed. Mae wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi bod eisiau ei wneud drwy gydol fy mywyd ac mae’n braf gallu gwella’r natur mewn ardal lle bydd fy mhlant yn tyfu fyny, rwy’n ddiolchgar o gael y cyfle i’w wneud.”
Mae gwarchod ein natur rhag effeithiau newid hinsawdd byd-eang wedi dod yn fwy pwysig yn y byd modern gyda llawer o bobl yn camu fyny i geisio gwneud gwahaniaeth, yn union fel y mae Liam wedi’i wneud.
Gan edrych yn ôl ar ei yrfa hyd yma, dywedodd Liam: “Ewch amdani, does dim gwahaniaeth os ydych yn eich 30au, 40au neu hyd yn oed yn eich 50au, gallwch newid eich llwybr gyrfa. Ni allaf ei argymell ddigon, hwn yw’r peth gorau i mi ei wneud erioed. Mae’r boddhad swydd yn uchel iawn.
Ychwanegodd: “Efallai fy mod yn arogli fel madarch ac yn dod adref gyda phryfed rhyfedd yn cropian arnaf ond mae’n werth hynny. Mae gennyf ddau o blant yr wyf yn mynd â nhw allan gyda mi ac rwy’n gweld y mwynhad yn eu llygaid pan fyddaf yn mynd â nhw i ddôl yr ydym wedi’i chreu ein hunain. Mae’n arbennig iawn, felly fy nghyngor i yw ewch amdani!”