Nawdd ar gael i helpu’r rheiny mewn gwaith i ddatblygu eu gyrfaoedd
Mae modd i weithwyr sy’n dymuno gwella eu sgiliau i ddatblygu eu gyrfaoedd gael help llaw diolch i gynllun newydd y Cyngor.
Mae bwrsari cyflogaeth pobl ifanc y Cyngor ar agor i weithwyr rhwng 18 a 35 mlwydd oed yn Sir Ddinbych ac mae nawdd ar gael i dalu am gyrsiau hyfforddi i’w helpu i ddatblygu o fewn y gweithle presennol neu ennill swydd â chyflog uwch gyda chyflogwr newydd yn Sir Ddinbych.
Mae posib i'r Cyngor helpu hyd at 80 unigolyn y flwyddyn gyda nawdd rhwng £250 a £2,000 y pen fel rhan o waith y Cyngor i sicrhau bod pobl ifanc eisiau byw a gweithio o fewn y sir a gyda’r sgiliau i wneud hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r dull arloesol hwn gan y Cyngor yn anelu i helpu pobl ifanc cyflogedig i ddatblygu eu gyrfa a chreu cyfleoedd newydd iddynt.
“Rydym eisiau annog pobl ifanc sy’n gweithio yn y sir i ddatblygu a thyfu yn eu gyrfaoedd ac ennill cyflogau uwch, a fydd o fudd i fusnesau’r sir gan gadw unigolion talentog a chrefftus.”
Gellir defnyddio’r nawdd ar gyfer cyrsiau Addysg Bellach ynghyd â sgiliau proffesiynol a hyfforddiant.
Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Gall buddsoddiad mewn person ifanc, drwy dalu am gwrs hyfforddiant, wneud gwahaniaeth mawr drwy eu helpu i wneud ceisiadau am swyddi â chyflog uwch, a fydd yn cynyddu eu potensial enillion drwy gydol eu gyrfaoedd.
“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd gwell i bobl ifanc, ac mae’r bwrsari yn ein helpu i gyflawni hyn.”
I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod rhwng 18 a 35 mlwydd oed, byw yn Sir Ddinbych, ac yn ennill o dan gyflog canolrif y sir o £20,326, yn gweithio ar hyn o bryd (lleiafswm o 16 awr) a gallu dangos argaeledd swyddi addas gyda chwmni wedi’i leoli yn Sir Ddinbych unwaith mae’r sgiliau wedi eu hennill.
Am ragor o fanylion gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i’n gwefan www.sirddinbych.gov.uk/bwrsariaeth-sgiliau