Cynnig discownt yng Nhaffi R
Wedi'r bartneriaeth lwyddiannus y llynedd bydd Café R yn gweithio eto gyda Charchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre i gynnig gostyngiadau i ymwelwyr.
Rhoddir taleb i bobl sy'n ymweld â Chaffi R sy'n rhoi iddynt ostyngiad o 20% pan fyddant yn ymweld â'r Hen Garchar neu Nantclwyd y Dre a bydd pobl sy'n ymweld â'r Hen Garchar neu Nantclwyd y Dre yn cael taleb sy'n rhoi discownt iddynt o 10% yng Nghaffi R.
Bydd y cynnig yn rhedeg tan fis Hydref.
Gallwch chi weld bwydlenni Café R ar eu gwefan.
Dilynnwch nhw ar Facebook a Twitter
Neu gallwch ffonio nhw i llogi bwrdd ar 01824 708099.