Mae cerddwyr brwd yn cael eu gwahodd i chwilio am eu hesgidiau cerdded yn barod i archwilio parc gwledig.

Mae ceidwaid cefn gwlad AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn parhau â chyfres o deithiau cerdded tywysedig o amgylch Parc Gwledig Loggerheads i helpu pobl i archwilio’r ardal a mwynhau buddion yr awyr agored ar gyfer eu lles meddyliol a chorfforol.

Saif y parc islaw clogwyni calch trawiadol Dyffryn Alun, lle mae’r afon yn mynd drwy geunentydd coediog serth a glaswelltir agored a diarffordd. Mae calchfaen yn dylanwadu ar bob rhan o’r parc gan siapio gwedd y dirwedd a dylanwadu ar blanhigion sy’n tyfu yno.

Mae gan Loggerheads hefyd hanes treftadaeth cyfoethog gyda’r graig yn yr ardal yn cael ei chloddio am blwm yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.

Cynhaliodd tîm y ceidwaid Daith Gerdded y Gaeaf yn ddiweddar a arweiniodd grŵp o amgylch y dylanwad tymhorol presennol ar y parc gan roi cyfle i bobl fwynhau manteision bod yn yr awyr agored a dysgu am yr ardal.

Esboniodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Imogen Hammond: “Yn ddiweddar, fe wnaethom groesawu aelodau o’r cyhoedd am yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yn daith dymhorol chwarterol ar benwythnosau o amgylch Parc Gwledig Loggerheads.

“Cawsom 19 o bobl yn bresennol a chawsom drafodaeth wych ar blanhigion y gaeaf, y gwaith sy’n mynd rhagddo ar glefyd y coed ynn, gwaith rheoli cynefinoedd a rôl hanfodol ein tîm o wirfoddolwyr!”

Bydd y daith dywys nesaf gan y ceidwaid ym Mharc Gwledig Loggerheads ddydd Iau 28 Mawrth o Loggerheads i Geinant y Cythraul i ddysgu am etifeddiaeth mwyngloddio plwm yn yr ardal. Y mis canlynol ar ddydd Sadwrn Ebrill 20 bydd taith gerdded yn ystod y gwanwyn yn y parc.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle ar daith gerdded, cysylltwch ag imogen.hammond@sirddinbych.gov.uk.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio: “Mae mynd allan i’r awyr agored mor bwysig ar gyfer hybu iechyd corfforol a meddyliol a byddwn yn annog unrhyw un i ymuno â’r teithiau tywys gwych hyn gan y ceidwaid i ddysgu am reolaeth a hanes Loggerheads, tra’n mwynhau’r manteision y gall bod yn yr awyr agored eu rhoi i’ch llesiant eich hun.”