Mae gwaith yn mynd rhagddo ar safle yn y Rhyl, a fydd yn darparu buddion i natur leol a lles cymunedol.

Mae coed yn cael eu plannu ar y Safle Natur Cymunedol newydd, gyferbyn â Pharc Ffordd Elan yn Llys Brenig ar Ystâd Park View.

Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â thri Safle Natur Cymunedol arall sy’n cael eu sefydlu gan y Cyngor eleni yn Llanelwy, Henllan a Chlocaenog, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023 a gwaith plannu coed mewn ysgolion ar hyd a lled y Sir, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023.

Mae’r Prosiect Safleoedd Natur Cymunedol wedi derbyn cyllid o grant gwerth £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Ymhen amser, bydd Safle Natur Cymunedol newydd y Rhyl yn darparu cynefinoedd cryfach i natur elwa ohonynt, yn ogystal â mannau cymunedol i gefnogi lles meddyliol a chorfforol preswylwyr a’u galluogi i ddysgu am fywyd gwyllt lleol.

Bydd datblygu’r safle hwn yn y Rhyl hefyd yn darparu buddion cymunedol eraill megis gwell ansawdd aer, oeri gwres trefol ac ardaloedd o ddiddordeb cymysg ar gyfer addysg a chwarae.

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi’r ymdrech i leihau ôl troed carbon y Sir, drwy gyfrannu at faint o garbon sy’n cael ei storio (neu ei amsugno) gan goed.

Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud yn Llys Brenig yn cynnwys creu pwll a gwlyptir i gefnogi bywyd gwyllt lleol, gosod ffensys newydd o amgylch y pwll a ffiniau’r safle, a pharatoi i greu llwybr troed yn y dyfodol i aelodau’r gymuned ei ddefnyddio at ddibenion hamdden.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, ynghyd â gwirfoddolwyr, yn plannu 1,885 o goed ar y safle yr wythnos hon, sy’n gymysgedd o goed llydanddail cynhenid sy’n briodol ar gyfer yr amodau lleol ac a fydd, fel yn achos y gwlyptiroedd a’r dolydd blodau gwyllt ar y safle, yn helpu i ddarparu cynefinoedd llawn rhywogaethau amrywiol i gynorthwyo ag adferiad a gwytnwch natur, a chyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol, yn ogystal â’r buddion o ran iechyd y gymuned leol. Mae disgyblion blwyddyn 4 o Ysgol Bryn Hedydd wedi bod yn dysgu am gynaliadwyedd yn y dosbarth, ac fe wnaethon nhw dorchi llewys hefyd i helpu gyda’r plannu ar y safle cymunedol newydd.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma ddatblygiad gwych o ran lles y gymuned leol o amgylch y safle hwn ac rwy’n ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o gaffael y tir hwn.

“Rwyf wedi bod allan yn helpu gyda’r plannu ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld yr ardal hon yn datblygu i gefnogi natur leol a chefnogi’r gwaith o ddarparu man gwych i breswylwyr lleol fynd i fwynhau bywyd gwyllt ar eu stepen drws, er mwyn rhoi hwb i’w lles meddyliol a chorfforol.”