24/06/2026
Bwrw ymlaen â chynllun adnewyddu toiledau cyhoeddus

Mae gwaith yn mynd yn ei flaen i adnewyddu nifer o doiledau cyhoeddus ledled Sir Ddinbych yn sgil ymdrech ar y cyd i gadw’r rhan fwyaf ohonynt yn agored yn y sir.
Ym mis Tachwedd y llynedd, cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych ar gynigion a fydd yn cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus y sir yn agored, diolch i gefnogaeth Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.
Datblygwyd y cynigion gan nad oedd y cyllid a ddarperid i’r Cyngor yn cyd-fynd â’r gwasgfeydd ariannol a chostau cynyddol darparu gwasanaethau, yn enwedig gwasanaethau statudol fel gofal cymdeithasol ac addysg. Golygai hynny bod llai o arian i’w wario ar wasanaethau “Creu Lleoedd”, fel toiledau cyhoeddus.
Er bod y Cyngor yn cydnabod mor bwysig yw toiledau cyhoeddus, darpariaeth anstatudol ydynt ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i’w darparu.
Serch hynny, gweithiodd y Cyngor gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i greu dull cynaliadwy o ariannu a diogelu cymaint o gyfleusterau â phosib. Mae’r dull hwnnw’n cynnwys cyfraniadau ariannol uniongyrchol gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.
Er mwyn i’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a Chyngor Sir Ddinbych fedru cadw’r toiledau ar agor, codir tâl am eu defnyddio.
Mae’r gwaith wedi cynnwys adnewyddu rhai o’r toiledau a ddiogelwyd drwy gydweithio. Ariannwyd hynny drwy’r Gronfa Effaith Balchder Bro.
Adnewyddwyd y toiledau yn yr Arena Ddigwyddiadau ac Old Golf Road yn y Rhyl.
Mae gwaith hefyd yn mynd yn ei flaen yn nhoiledau Traeth Barkby ym Mhrestatyn a fydd yn ailagor ar Fehefin 27.
Mae’r gwaith adnewyddu sydd ar y gweill yn cynnwys:
- Toiledau Princes Road, Rhuddlan, a fydd yn cau ar 29 Mehefin cyn ailagor ar 18 Gorffennaf
- Toiledau Neuadd Tref y Rhyl, a fydd yn cau ar 20 Gorffennaf cyn ailagor ar 8 Awst
- Toiledau Parc Glan yr Afon, Llangollen, sydd ar gau ar hyn o bryd ac yn ailagor ar 14 Awst
- Toiledau Ffordd Llys Nant, Prestatyn, a fydd yn cau ar 10 Awst cyn ailagor ar 29 Awst
- Toiledau Llanelwy, a fydd yn cau ar 1 Medi cyn ailagor ar 19 Medi
- Toiledau Gerddi’r Coroni, a fydd yn cau ar 21 Medi cyn ailagor ar 10 Hydref
- Toiledau Nova, a fydd yn cau ar 12 Hydref cyn ailagor ar 31 Hydref
- Toiledau Heol y Farchnad, Llangollen, a fydd yn cau ar 2 Tachwedd cyn ailagor ar 21 Tachwedd.
Sylwer y gallai’r dyddiadau uchod newid oherwydd y tywydd neu ffactorau eraill.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Diolch i’r ymdrechion cadarnhaol a chydweithio â’r cynghorau dinas, tref a chymuned, bu modd inni gadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus ar agor. Bydd y gwaith adnewyddu yma’n creu cyfleusterau llawer gwell i bobl leol ac ymwelwyr â’r sir eu defnyddio yn y dyfodol.”
Hoffwn ddiolch hefyd i bawb am eu cefnogaeth a’u hamynedd wrth i’r gwaith adnewyddu fynd yn ei flaen.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thoiledau cyhoeddus a thaliadau mynediad yn Sir Ddinbych, ewch i