Gorffennaf 2026

06/07/2026

Cyngor yn tynnu sylw at gynnydd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi tynnu sylw at flwyddyn o gynnydd wrth hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, fel rhan o Ddatganiad Blynyddol y Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol (SEDG) ar gyfer 2025 i 2026.

Mae'r adroddiad, a gyflwynir i'r Cyngor llawn ar 7 Gorffennaf 2026, yn nodi'r ymrwymiad parhaus i greu sefydliad teg, cynhwysol a chroesawgar, ac i gefnogi cymunedau diogel a chynhwysol ledled Sir Ddinbych.

Nodir cyflawniadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf yn yr adroddiad, gan gynnwys ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd Lefel 3 ym mis Mawrth 2026, y lefel uchaf o gynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU. Mae'r gydnabyddiaeth yn dangos arweinyddiaeth, tryloywder ac ymrwymiad y cyngor i welliant parhaus yn y ffordd y mae'n recriwtio, cefnogi a datblygu pobl ag anableddau.

Sefydlwyd SEDG bron i bedair blynedd yn ôl ac mae'n parhau i helpu i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws gwaith y cyngor, gan gefnogi diwylliant lle mae pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch a lle nad yw gwahaniaethu, aflonyddu ac ymddygiad sarhaus yn cael eu goddef.

Yn ystod 2025 i 2026, roedd gwaith y grŵp yn cynnwys goruchwylio amcanion cydraddoldeb o fewn Cynllun Corfforaethol y cyngor, adolygu Asesiadau Effaith Llesiant, cefnogi adnewyddu Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth Cymru, ystyried adroddiadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau, a chwblhau ymchwil ar fesurau a dangosyddion tlodi plant.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldebau ac Asedau: “Rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd a chryfhau’r ffordd y mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hystyried ar draws gwaith y cyngor. Mae’r agenda hon yn ganolog i’n gwerthoedd o falchder, undod, parch ac uniondeb, ac i’n huchelgais i gefnogi Sir Ddinbych lle gall pawb gyflawni eu potensial.”

Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, bydd y grŵp yn parhau i gefnogi gwaith sy’n cyfrannu at genadaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ledled Cymru. Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i wella ei ddefnydd o ddata sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb ac yn archwilio ffyrdd o ymhelaethu ar leisiau a safbwyntiau profiad byw.

Aeth y Cynghorydd Matthews ymlaen i ddweud: “Rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud bob amser, ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i gyflawni gwelliant parhaus gyda’r adnoddau sydd ar gael. Drwy wrando, dysgu a gweithio gyda chymunedau a phartneriaid, gallwn barhau i gael gwared ar rwystrau, herio gwahaniaethu a hyrwyddo cynhwysiant ledled Sir Ddinbych.”

Gallwch weld y papur llawn sy’n mynd i’r cyngor ar 7 Gorffennaf ar y wefan.

 

 

Comments