Gorffennaf 2026

09/07/2026

Grŵp yn creu amddiffyniad ar gyfer coed newydd eu plannu yn y gymuned

Mae gwaith pellach wedi cael ei wneud i amddiffyn coed sydd newydd eu plannu mewn ardal gyhoeddus yn yr awyr agored yn y Rhyl.

Gyda chefnogaeth i reoli’r prosiect gan y tîm Newid Hinsawdd, fe blannodd Ceidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych dros 500 o goed yn ddiweddar yn y man gwyrdd cyhoeddus sy’n cael ei reoli gan dîm Gwasanaethau Stryd wrth agosáu at Violet Grove yn Ystâd Trellewelyn  - cymysgedd o wrych a choed safonol.  Mae gwaith ychwanegol bellach wedi cael ei wneud i helpu i gefnogi’r coed sydd newydd eu plannu ar y safle. 

Mae’r gwaith wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

Fe ymunodd grŵp oedd yn cynnwys Ceidwaid Cefn Gwlad, aelodau ward lleol a gwirfoddolwyr ynghyd i ddiogelu coed unigol oedd wedi’u plannu ar y safle. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o ddeg o rywogaethau ffrwythau lleol Cymreig, fel afal Rhyl Beauty ac eirin Dinbych, a saith o goed collddail.

Fe adeiladodd y grŵp amddiffynwyr coed pren o amgylch y coed safonol i atal difrod wrth iddynt dyfu a darparu amddiffyniad ychwanegol i wreiddiau’r coed a’r pridd o amgylch yr ardal sydd wedi’i blannu. 

Ynghyd â’r gwaith coed, mae’r datblygiad yn Violet Grove yn cynnwys adeiladu rhwystr pren newydd ym mynedfa’r maes parcio at y coed sydd newydd eu plannu er mwyn atal mynediad i gerbydau diawdurdod.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydw i’n ddiolchgar iawn am y gwaith partneriaeth rhwng y gwasanaethau gwahanol a’r gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud y gwaith pwysig yma i amddiffyn y coed newydd yma yn Violet Grove. Fe fydd eu gwaith yn helpu i wella’r ardal newydd yma sydd yn rhoi hwb mor bwysig i natur a’r cymunedau cyfagos a bydd yn helpu addasiad y Cyngor i newid hinsawdd i wneud mannau agored cyhoeddus yn fwy gwydn at y dyfodol.”

 

 

 

Comments